Mae'r Cyngor wedi rhoi diweddariad ar y broses o sicrhau tenantiaid ar gyfer ei ddatblygiad unedau busnes modern newydd yn Nhresalem – ac mae'n falch iawn o gadarnhau bod prydlesi wedi'u cwblhau ar gyfer naw o'r 20 uned hyd yma.
Cafodd y gwaith adeiladu ar ddatblygiad mawr Cwm Cynon ei gwblhau cyn y Nadolig, gan ddod â'r tir nad oedd yn cael ei ddefnyddio oddi ar Stryd Wellington yn ôl i ddefnydd. Mae wedi creu 20 adeilad diwydiannol sy'n amrywio o unedau traddodiadol i rai aml-ddefnydd ac sy'n amrywio mewn maint o 1,000 i 1,700 troedfedd sgwâr. Mae'r datblygiad wedi'i gyflawni o ganlyniad i gyllid sylweddol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Mae'r Cyngor wedi mynd ati i farchnata'r unedau gyda'i ymgynghorwyr JLL ac wedi derbyn cryn ddiddordeb. Mae llawer o'r prydlesi wedi'u cwblhau dros yr wythnosau diwethaf ac mae tenantiaid wedi'u cadarnhau ar gyfer naw o'r unedau, ac mae dwy uned bellach dan gynnig, fel sydd wedi'i nodi isod:
- Uned 1 – South Wales Computer Supplies
- Uned 7 – M L Crane Services Ltd
- Uned 8 – Dec-Elec Ltd
- Uned 9 – WesMec
- Uned 16 – Rheidol Electrical Services Ltd
- Uned 17 – Bragdy Grey Trees Brewery
- Unedau 18, 19 and 20 – Brady Grey Trees
Mae modd i'r Cyngor hefyd gadarnhau ei fod wedi derbyn cryn ddiddordeb yn yr unedau sy'n weddill, sy'n darparu cyfleoedd busnes modern ar gyfer ystod o ddefnyddiau. Bydd newyddion am denantiaid pellach yn cael eu rhannu yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: "Rydw i'n falch iawn bod y Cyngor bellach wedi sicrhau tenantiaid ar gyfer bron i hanner y lleoedd sydd ar gael yn natblygiad yr unedau modern newydd yn Nhresalem. Mae hefyd yn newyddion da bod pobl yn parhau i ddangos diddordeb yn yr 11 uned sy'n weddill, gan gynnwys dwy sydd dan gynnig ar hyn o bryd. Mae'n dangos bod angen y math yma o lety busnes hyblyg yn yr ardal leol.
"Mae'r Cyngor wedi croesawu'r cyllid gwerth £3.36 miliwn a gafodd ei gadarnhau gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a hynny'n rhan o gynllun ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Mae'r unedau modern wedi adfywio safle cyflogaeth allweddol yn Nhresalem, sydd wedi'i gynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r cynllun yma'n dilyn yr unedau busnes newydd gwerth £2.58m a gafodd eu creu ym Mharc Coed-elái yng Nghoed-elái yn 2021, sydd hefyd wedi manteisio ar gyllid Ewropeaidd sylweddol.
"Mae'r mwyafrif o denantiaid newydd yn natblygiad Tresalem yn lleol i ardal Cwm Cynon, ac maen nhw naill ai wedi llwyddo i adleoli i'r safle newydd neu ehangu eu busnes gan ddefnyddio'r unedau newydd. Mae rhai o'r cwmnïau wedi adleoli o amgylchedd swyddfa gartref, sydd unwaith yn rhagor yn amlygu'r galw am yr unedau ac yn dangos sut y maen nhw'n cyfrannu at yr economi.
"Hoffwn i groesawu'r cwmnïau sy'n meddiannu'r naw uned gyntaf yn Nhresalem a dymunaf yn dda iddyn nhw wrth iddyn nhw symud i'r safle. Bydd y Cyngor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am unrhyw denantiaid newydd a gaiff eu sicrhau ar gyfer yr unedau sy'n weddill.”
Os oes gyda chi unrhyw ymholiad sy'n ymwneud â'r unedau sy'n weddill, ffoniwch asiant gosod eiddo'r Cyngor, JLL, ar 029 2072 6003, neu e-bostio Kate.Openshaw@eu.jll.com.
Wedi ei bostio ar 20/04/23