Oherwydd y rhagolygon tywydd diweddaraf, mae'n ddrwg iawn gyda ni gyhoeddi bod achlysur Cegaid o Fwyd Cymru ar 5 Awst wedi'i ganslo. Er ein bod ni'n hen gyfarwydd â chynnal achlysuron ni waeth beth fo'r tywydd yma yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n bryderus iawn am effeithiau'r gwyntoedd cryfion disgwyliedig ar ein strwythurau. Mae diogelwch y cyhoedd bob amser yn flaenoriaeth pan fyddwn ni'n cynllunio ein hachlysuron, a dyna pam y penderfynon ni ganslo diwrnod cyntaf Cegaid o Fwyd Cymru. Mae rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sul, 6 Awst, yn edrych yn addawol ar hyn o bryd, ac rydyn ni'n bwriadu agor yr achlysur am 11am yn ôl y cynllun gwreiddiol. Byddwn ni'n cyhoeddi unrhyw newidiadau pellach ar ein cyfryngau cymdeithasol. Diolch
Wedi ei bostio ar 04/08/2023