Skip to main content

Dechrau gwaith gwella cilfachau cwlfer ger Heol Llwyncelyn, Porth

Llwyncelyn Road culvert inlet

Bydd gwaith paratoi cychwynnol i wella'r seilwaith draenio ger Heol Llwyncelyn, Porth yn dechrau yr wythnos nesaf.

Bydd gwaith y cynllun yn cael ei gynnal y tu ôl i'r hen orsaf dân a ffatri Beatus Cartons – fydd dim llawer o darfu ar yr ardal leol.

Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar waith clirio yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 7 Awst.

Bydd gwaith y prif gynllun yn dechrau o ddydd Llun 14 Awst.

Bydd y prif gynllun yn gwella'r asedau presennol – gan gynnwys gwella'r cwrs dŵr, gosod cefnfur newydd a chyflwyno mesurau rheoli malurion newydd.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons Construction yn gontractwr ar gyfer y cynllun, fydd yn para hyd at 8 wythnos.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu trwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 04/08/23