Bydd ail gam yr ymgynghoriad yn dechrau y mis yma yn rhan o'r broses o ddiweddaru'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu. Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud ar sut bydd perygl llifogydd o ffynonellau lleol yn cael ei reoli yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd y Cyngor yn dechrau'r ymgynghoriad ddydd Llun, 21 Awst, sef ail gam ymgysylltu â'r cyhoedd ar y Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu, yn dilyn ymarfer cychwynnol ym mis Rhagfyr 2022 a mis Ionawr 2023. Derbyniodd y Cabinet yr wybodaeth ddiweddaraf ar yr adolygiad o'r Strategaeth yn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf, a chytunodd yr Aelodau i ymgynghoriad statudol ffurfiol gael ei gynnal.
Mae rhaid i'r Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer Rhondda Cynon Taf, ddatblygu, cynnal, monitro a rhoi strategaeth ar waith ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol. Rhoddwyd y strategaeth bresennol ar waith yn 2013 ac o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, mae rhaid ei hadolygu – a hynny er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd ag amcanion, mesurau a pholisïau Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion weld fersiwn ddrafft o'r Strategaeth ddiwygiedig a dweud eu dweud arni. Bydd yr ymarfer yn cyflwyno cynigion ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol yn Rhondda Cynon Taf dros y chwe blynedd nesaf. Bydd asesiadau amgylcheddol drafft hefyd yn rhan o'r ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfanswm o chwe wythnos, gan ddod i ben ddydd Llun, 2 Hydref. Mae wedi'i anelu at aelodau'r cyhoedd, gweithwyr y Cyngor, partneriaid risg a rhanddeiliaid eraill megis awdurdodau lleol cyfagos. Bydd manylion llawn a deunyddiau i'w gweld ar dudalen we Ymgynghoriadau’r Cyngor o 21 Awst – a bydd yn cynnwys holiadur ar-lein i drigolion gael dweud eu dweud.
Bydd yr holl ymatebion sy'n dod i law yn ystod y broses yn cael eu hystyried gan swyddogion, a'u defnyddio i ddiweddaru'r Strategaeth yn ôl yr angen. Bydd y fersiwn derfynol, ynghyd â’r holl asesiadau amgylcheddol, yn cael eu cyflwyno i’r Cabinet – ac os bydd yn cael ei chymeradwyo, bydd yn cael ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn ei mabwysiadu ym mis Mawrth 2024.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae buddsoddi mewn mesurau lliniaru llifogydd, i amddiffyn ein trigolion a’n cymunedau rhag y bygythiad o lifogydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, yn parhau i fod yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor. Felly mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu'n bolisi allweddol sy'n sail i'n buddsoddiad mawr yn y maes yma.
“Mae’r Strategaeth yn ymdrin â’r perygl llifogydd posibl o ffynonellau lleol, sy’n cynnwys cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr ffo a dŵr daear. Fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, mae'n ofynnol i'r Cyngor fonitro a diwygio'r Strategaeth i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â pholisïau cenedlaethol. Bu’r Cabinet yn ystyried fersiwn ddrafft o’r Strategaeth ar 17 Gorffennaf, a chytunodd i swyddogion gynnal ymgynghoriad statudol chwe wythnos – o 21 Awst.
“Yn y blynyddoedd diwethaf bu buddsoddiad mawr mewn lliniaru llifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol, gan ddefnyddio cyllid yr Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni'n parhau i wneud cynnydd gyda’n rhaglen garlam o fesurau lliniaru llifogydd wedi’u targedu – sy’n cynnwys mwy na 100 o gynlluniau mewn cymunedau lleol. Mae'r Cyngor hefyd wedi cwblhau pob Adroddiad Llifogydd Adran 19 ar gyfer 19 o gymunedau a gafodd eu heffeithio gan Storm Dennis, er mwyn deall yn well yr hyn a ddigwyddodd, a sut byddai modd lliniaru llifogydd yn ystod cyfnodau o dywydd tebyg.
“Rydw i’n annog trigolion i gael gwybod rhagor a dweud eu dweud yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ar 21 Awst ac yn cael ei hyrwyddo dros y chwe wythnos nesaf. Bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried pan fydd swyddogion yn diweddaru’r Strategaeth ymhellach, er mwyn ei hanfon at y Cabinet a Llywodraeth Cymru i’w chymeradwyo’n derfynol.”
Mae rhagor o wybodaeth am y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ar wefan y Cyngor. Bydd y dudalen yma'n cael ei diweddaru pan fydd yr ymgynghoriad yn dechrau.
Wedi ei bostio ar 14/08/23