Mae gan Hamdden am Oes Rhondda Cynon Taf gynnig a hanner i chi'r Nadolig yma.
Ymunwch â Hamdden am Oes rhwng Rhagfyr 19 a 2 Ionawr, 2024 - gan sicrhau mynediad diderfyn i'r gampfa, pwll nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a rhagor mewn 12 canolfan hamdden - a does dim angen i chi dalu tan fis Chwefror 2024.
Mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael mynediad am ddim am fwy na mis!
Mae'r cynnig ar gael i unrhyw un o unrhyw oed sydd heb gael Aelodaeth Hamdden am Oes o'r blaen.
Mae'n rhoi mynediad i chi at un o gynigion hamdden mwyaf hael yr ardal, gyda 12 canolfan, 11 campfa, 9 pwll nofio a channoedd o ddosbarthiadau ffitrwydd - gan gynnwys Les Mills - bob wythnos.
Mae natur gynhwysol Hamdden am Oes yn golygu bod modd i chi ddefnyddio unrhyw ganolfan, felly os ydych chi'n gweithio ym Mhontypridd ond yn byw yng Nghwm Rhondda, mae modd i chi wneud ymarfer corff yng Nghanolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn yn ystod yr wythnos a defnyddio eich canolfannau lleol i nofio neu fynychu dosbarth ffitrwydd ar y penwythnos.
Gallwch chi wirio amserlenni pob canolfan ar yr AP Hamdden am Oes AM DDIM, er mwyn i chi fynychu'r dosbarth troelli sy'n addas i chi a nofio neu wneud ymarfer corff pryd bynnag rydych chi'n dymuno!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Dyma gynnig hael iawn gan Hamdden am Oes, sy'n cynnig mynediad anhygoel am ychydig dros £1 y diwrnod yn barod (heb gynnwys unrhyw ostyngiadau neu gonsesiynau).
"Mae cannoedd o ddosbarthiadau i ddewis o’u plith gan gynnwys campfeydd modern a golau sy'n cynnwys yr offer a thechnoleg ffitrwydd diweddaraf er mwyn sicrhau eich bod chi'n gwneud y gorau o bob sesiwn ymarfer corff.
"Mae aelodaeth hefyd yn cynnwys mynediad i’r pwll nofio a gwersi nofio ar gyfer pob oedran, ynghyd â mynediad at gyfleusterau chwaraeon dan do megis sboncen a badminton. Mae aelodaeth yn adlewyrchu ethos Hamdden am Oes, sydd ar gael i’n holl gymunedau - o sesiwn nofio gyntaf eich baban yn y pwll nofio hyd at ddosbarthiadau i bobl hŷn neu bobl nad ydyn nhw'n gallu symud."
Ymunwch â Hamdden am Oes cyn Ionawer 2 i sicrhau aelodaeth mis Ionawr AM DDIM! Mae'r cynnig ar gael i unrhyw un sydd heb gael Aelodaeth Hamdden am Oes o'r blaen ac mae’n gontract 12 mis o hyd. Bydd mynediad at gyfleusterau Hamdden am Oes yn dechrau wedi i chi gofrestru. Bydd eich taliad cyntaf ym mis Chwefror 2024 a phob mis wedi hynny am o leiaf 12 mis.
Mae Hamdden am Oes yn cynnig prif aelodaeth am £37.50 y mis, gydag aelodaeth ratach am £23.50 y mis ar gyfer y rheiny dan 18 oed neu dros 60 oed. Mae gostyngiadau ar gael hefyd i'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys a deiliaid cerdyn Golau Glas neu gerdyn y Lluoedd Arfog.
Mae cynllun aelodaeth gorfforaethol ar gael ar gyfer busnesau a sefydliadau sydd ag o leiaf pum aelod/gweithiwr yn derbyn aelodaeth am £29 y person, y mis. Bwriwch olwg ar www.rctcbc.gov.uk/hamdden i weld a yw eich cyflogwr/clwb/sefydliad chi wedi'i gynnwys.
Wedi ei bostio ar 18/12/23