Mae'r holl waith i osod croesfan newydd i gerddwyr yn Llanharan wedi'i gwblhau gan sefydlu man fwy diogel i drigolion groesi'r briffordd brysur yng nghanol y gymuned.
Yn dilyn ceisiadau gan Aelodau Etholedig a'r gymuned i wella diogelwch cerddwyr yn yr ardal datblygodd y Cyngor gynllun i osod croesfan barhaol ag arwyddion ger Siop Cymuned Llanharan. Mae'r gwaith wedi mynd rhagddo'n dda dros yr wythnosau diwethaf, wedi cwblhau gwaith amnewid y bont droed rheilffordd gerllaw ar yr A473, Heol Pen-y-bont.
Cafodd gwaith gosod y groesfan ac adnewyddu isadeiledd draenio'r briffordd eu cwblhau ym mis Tachwedd - gyda gwaith ailwynebu ar yr A473 rhwng y bont a'r High Corner, a'r fynedfa i Heol y Capel yn cael ei gwblhau yn unol â gorchymyn cau ffordd ar ddydd Sul (26 Tachwedd).
Mae gwaith cwblhau'r camau olaf wedi'i gwblhau ac mae'r contractwr wedi gadael y safle yn ddiweddar wedi cwblhau'r cynllun.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch iawn fod croesfan newydd i gerddwyr yn Llanharan, oedd wedi'i chwblhau yn dilyn cais gan y gymuned bellach wedi'i osod ac yn weithredol yn dilyn cynnydd sylweddol dros yr wythnosau diwethaf. Mae wedi ffurfioli croesfan ddiogel ar Heol Pen-y-bont gan greu amgylchedd gerdded fwy diogel i drigolion lleol.
"Cafodd gwaith sylweddol ei gwblhau'n ddiweddar i amnewid y bont troed rheilffordd ar Heol Pen-y-bont. Penderfynwyd dilyn hyn yn uniongyrchol gyda chynllun y groesfan i gerddwyr er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl - byddai wedi bod angen dychwelyd i'r safle yn ddiweddarach yn hytrach. Rydyn ni hefyd wedi cwblhau gwaith draenio ac ail-wynebu allweddol ynghyd â gwaith y groesfan i gerddwyr nad oedd modd eu cwblhau pan oedd cynllun y bont droed yn mynd rhagddo.
"Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad yn ystod cynllun amnewid pont droed y rheilffordd a gwaith diweddar y groesfan i gerddwyr - sydd wedi gwella diogelwch trigolion yn y lleoliad prysur yma yn y pentref."
Wedi ei bostio ar 08/12/23