Skip to main content

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

school generic 3

Bydd pob disgybl ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf yn gymwys i gael Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cyffredinol yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i bwysau'r argyfwng costau byw ar deuluoedd. 

Mae mynd i'r afael â thlodi plant a sicrhau na fydd yr un plentyn yn llwgu yn yr ysgol yn parhau i fod yn uchelgais ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol. Mae pryd amser cinio yn hanfodol ar gyfer iechyd a lles pob plentyn. 

Mae manteision ehangach hefyd i brydau ysgol am ddim, gan gynnwys hybu bwyta'n iach ledled yr ysgol, cynyddu'r amrywiaeth o fwyd mae disgyblion yn ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol yn ystod amser bwyta, ynghyd â gwella ymddygiad a chyrhaeddiad.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd ag awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru, wedi bod yn darparu Prydau Ysgol Gynradd am Ddim i blant yn y dosbarthiadau derbyn ers y llynedd. Mae'r cynnig bellach yn cael ei estyn i ddisgyblion ym Mlwyddyn 1 a disgyblion cymwys mewn lleoliad Meithrin llawn amser.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Chyfranogiad Pobl Ifainc: "Dechreuodd ein Cyngor gyflwyno'r Prydau Ysgol Gynradd am Ddim Cyffredinol i'w disgyblion ifanc yn 2022, ac mae'n bleser gyda fi fod y ddarpariaeth yma'n parhau i ddisgyblion eraill yn 2023.

"Mae hwn yn gam pwysig iawn tuag at gyrraedd uchelgais y Cyngor a Llywodraeth Cymru: na fydd unrhyw blentyn yn llwglyd tra ei fod yn yr ysgol."

Cwestiynau Cyffredin 

Mae rhaid i chi wneud cais am Brydau Ysgol Am Ddim hyd yn oed os ydych chi'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol  gan y bydd hyn yn effeithio ar eich hawl bosibl i Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad. 

Gwnewch gais am Brydau Ysgol am ddim 

Wedi ei bostio ar 01/02/2023