Skip to main content

Diweddariad: Sesiynau galw heibio lleol yn rhan o'r ymgynghoriad ar ofal preswyl

Modernising-care-for-older-people-EVENTS-WELSH - updated

**DIWEDDARWYD 20/01/23

Mae achlysuron ymgynghori cyhoeddus wedi'u trefnu ym Mhentre'r Eglwys, Aberpennar a Glynrhedynog y mis yma, sy'n rhoi cyfle i'r cyhoedd gael rhagor o wybodaeth am y cynigion i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal preswyl.

Bydd y sesiynau yma'n canolbwyntio ar opsiwn a ffefrir i fuddsoddi mewn pedwar llety gofal newydd o’r radd flaenaf. Byddan nhw'n cynnig gofal ychwanegol a gofal dementia yn Nhreorci, Glynrhedynog ac Aberpennar a gofal i oedolion ag anableddau ym Mhentre'r Eglwys. Bydd pump o gartrefi gofal y Cyngor yn parhau i weithredu yn rhan o'r opsiwn yma, gyda phedwar cartref yn cael eu dadgomisiynu. Amlinellir yr opsiwn a ffefrir ar waelod yr erthygl yma. 

Mae'r ymgynghoriad cyfredol, sy'n para tan 27 Ionawr, yn parhau i roi cyfle i'r preswylwyr sydd efallai wedi'u heffeithio gan y cynnig i ddweud eu dweud – yng nghwmni eu teuluoedd, cynhalwyr ac eiriolwyr, a'u haelodau o staff. Mae modd i'r cyhoedd gael rhagor o wybodaeth a chwblhau arolwg ar-lein ar dudalen benodol ar gyfer ymgynghoriadau.

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau lleoliad y tair sesiwn galw heibio:

  • Canolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg (Y Rhodfa, Pentre'r Eglwys) - Dydd Llun, 16 Ionawr (5pm-7pm)
  • **Canolfan Glynrhedynog (Heol y Gogledd, Glynrhedynog) - Dydd Mercher, 25 Ionawr (5pm-7pm). Nodwch: Roedd yr achlysur yma wedi’i drefnu ar gyfer 18 Ionawr yn wreiddiol, ond cafodd ei ganslo oherwydd y tywydd gaeafol.
  • Canolfan Pennar (Stryd Rhydychen, Aberpennar) - Dydd Mawrth, 24 Ionawr (5pm-7pm)

Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd ddod i unrhyw un o'r achlysuron yma, ble bydd modd siarad â'r swyddogion am y cynigion, a dweud eu dweud yn swyddogol. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw i ddod i'r achlysur.

Cafodd y cynigion eu cyflwyno'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i foderneiddio darpariaeth gofal i oedolion, gan ymateb i ddisgwyliadau newidiol a phoblogaeth sy'n heneiddio. Cytunodd y Cyngor ar gynllun buddsoddi gwerth £50 miliwn i ddarparu 300 o welyau gofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf yn 2017. Ers hynny mae 100 o welyau newydd wedi’u creu mewn tai gofal ychwanegol newydd yn Aberaman a’r Graig.

Os bydd yn cael ei gytuno, bydd y cynigion yn darparu buddsoddiad pellach o £60 miliwn yn y ddarpariaeth gofal gan ganolbwyntio ar wasanaethau ataliol, lles ac anghenion y dyfodol.

Trwy gydol yr ymgynghoriad, bydd y Cyngor yn darparu llyfryn gwybodaeth, holiadur, Cwestiynau Cyffredin a dogfennau hawdd eu darllen i'r holl breswylwyr sy'n byw yn y cartrefi gofal sy'n cael eu heffeithio gan y cynigion. Bydd cyfarfodydd yn digwydd rhwng preswylwyr a'u teuluoedd, gyda chymorth eiriolaeth ar gael ble bo angen.

Mae'r broses hefyd yn cynnwys cyfarfodydd ymgynghori mewnol ag aelodau o staff sy'n gweithio yn y cartrefi gofal a fyddai'n cael eu heffeithio pe bai'r cynigion yn cael eu cytuno arnyn nhw.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r sesiynau galw heibio sydd wedi'u trefnu ar gyfer mis Ionawr yn rhoi cyfle i'r cyhoedd ddweud eu dweud ar y cynigion er mwyn moderneiddio darpariaeth gofal preswyl leol. Bydd yr opsiwn a ffefrir yn cynnig buddsoddiad ychwanegol pellach o tua £60 miliwn ar gyfer llety gofal newydd, ac mae'r sesiynau i'r cyhoedd yn rhan o ymgynghoriad parhaus ehangach sy'n dod i ben ar 27 Ionawr.

"Mae croeso i bawb ddod i un o'r tri achlysur ym Mhentre'r Eglwys, Glynrhedynog ac Aberpennar, gyda sylw penodol yn cael ei roi ar y pedwar cartref gofal sydd i fod i gael eu datgomisiynu yn rhan o'r cynigion. Bydd modd i aelodau o'r cyhoedd siarad yn uniongyrchol â swyddogion. Mae'n bwysig nodi bod y cyfarfodydd i'r cyhoedd ar wahân i'r cyfarfodydd mewnol parhaus gyda phreswylwyr, teuluoedd ac eiriolwyr, ac aelodau o staff.

"Bydd y cynigion yn datblygu pedwar llety gofal newydd o’r radd flaenaf ledled y Fwrdeistref Sirol, a fydd yn ehangu'r opsiynau i'r rhai sydd angen gofal a chymorth, a gwella iechyd ac annibyniaeth pobl hŷn am genedlaethau i ddod. Mae swyddogion wedi ei gwneud yn glir bod peidio gweithredu ynghylch ein cartrefi gofal ddim yn opsiwn, yn wyneb y cynnydd parhaus mewn gwelyau dros ben mewn cartrefi gofal ac anghenion newidiol pobl hŷn.

"Rydw i'n annog pawb sydd â diddordeb i ddod i un o'r cyfarfodydd i'r cyhoedd, neu i barhau i gyfrannu at yr ymgynghoriad ehangach drwy lenwi arolwg ar wefan y Cyngor. Bydd yr adborth sy'n cael ei gasglu yn cael ei gyflwyno i Aelodau'r Cabinet, i lywio eu penderfyniad terfynol ar y cynigion mewn cyfarfod yn y dyfodol."

Mae'r Cyngor yn awr yn ymgynghori ar yr opsiwn a ffefrir, sy'n cynnwys: 

  • Cadw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol mewn pump o gartrefi gofal presennol y Cyngor – Cwrt Clydach yn Nhrealaw, Tŷ Pentre, Tegfan yn Nhrecynon, Cae Glas yn y Ddraenen-wen a Pharc Newydd yn Nhonysguboriau. 
  • Darparu llety newydd gyda 40 o fflatiau Gofal Ychwanegol ac 20 o welyau dementia preswyl yn Nhreorci – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru a’r bwrdd iechyd. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Ystrad Fychan. Mae'r cartref gofal ar gau dros dro heb unrhyw breswylwyr, a byddai'n cael ei ddadgomisiynu'n barhaol. 
  • Darparu llety newydd gydag 20 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 10 gwely dementia preswyl yng Nglynrhedynog – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger cartref gofal presennol Ferndale House, a fyddai'n cael ei ddatgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. 
  • Darparu llety newydd gyda 25 o fflatiau gofal ychwanegol ac 15 o welyau dementia preswyl yn Aberpennar – byddai’r datblygiad yma'n cael ei archwilio gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal presennol Troed-y-rhiw. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu. 
  • Llety wedi'i ailfodelu i ddarparu gofal i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys – byddai hyn yn cael ei gyflawni drwy ailddatblygu Cartref Gofal Garth Olwg. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd lleoliadau addas yn cael eu canfod ar gyfer ei breswylwyr, mewn cartref o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion asesedig. 

Mae'r Cyngor yn cynnal naw cartref gofal preswyl sy'n cynnig 267 o welyau, a dyma ydy un o'r darparwyr Awdurdod Lleol mwyaf yng Nghymru. Mae ganddo nifer cynyddol o welyau dros ben – roedd 184 o welyau'n wag ym mis Tachwedd 2022, gan godi o 8 gwely gwag yn 2016. Dim ond 60% o welyau gofal preswyl y Cyngor sy'n cael eu defnyddio. 

Wedi ei bostio ar 20/01/2023