Skip to main content

Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer RhCT

yellow warning

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN ar gyfer Rhondda Cynon Taf hyd at 10am Dydd Gwener, 20 Ionawr, oherwydd cawodydd o eira ac amodau rhewllyd. 

Mae'n bosibl y bydd hyn yn tarfu ar draffig a theithiau mewn rhai ardaloedd. Mae hefyd yn bosibl y bydd y tywydd o dan y rhew bwynt yn cael effaith ar drafnidiaeth cyhoeddus. 

Rydyn ni'n cynghori gyrwyr i yrru yn unol â'r amodau ac i ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith.

Bydd adrannau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor yn cadw llygad ar y sefyllfa ac yn trin y brif rwydwaith ledled ein Bwrdeistref Sirol, yn ogystal â ffyrdd ein mynyddoedd a meysydd parcio'r Cyngor. 

Dyma gynghori'r cyhoedd i fod yn effro ac yn arbennig o ofalus trwy gydol cyfnod y rhybudd diweddaraf. Rydyn ni'n gofyn i drigolion a busnesau gymryd camau bach er mwyn lleihau'r risgiau pan fo'n bosibl ac yn ddiogel i wneud hynny 

Mae biniau halen wedi'u gosod ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn i drigolion eu defnyddio ar y ffyrdd. Rydyn ni'n gwirio'r cyflenwad halen yn y biniau yma'n gyson. 

Biniau Halen: Gofynnwch am ail-lenwi bin, bin newydd neu am newid bin https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/ParkingRoadsandTravel/Roadspavementsandpaths/Gritting/GritbinsRefillsneworreplacementbin.aspx

Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif argyfwng tu allan i oriau y Cyngor ar 01443 425011. Hefyd, dilynwch gyfrifon cyfryngau cymdeithasol swyddogol Twitter a Facebook y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd.

Wedi ei bostio ar 19/01/2023