Skip to main content

Tocyn Haf Hamdden am Oes

Untitled design - 2023-07-10T123804.694

Mae'n amser am haf o Hamdden am Oes, gyda Thocyn Haf i Fyfyrwyr ar gyfer pobl mewn addysg llawn amser!

Os ydych chi'n mynychu ysgol, coleg neu brifysgol, mae modd i chi gael pythefnos o fynediad diderfyn i sesiynau campfa a nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, cyrtiau badminton a sboncen, tennis bwrdd a physt pêl-fasged mewn 12 canolfan am £10 yn unig.

Prynwch y tocyn yn eich canolfan Hamdden am Oes leol neu un o'ch dewis chi. Bydd y tocyn yn weithredol am bythefnos yn awtomatig. Ar ddiwedd y 14 diwrnod, mae modd prynu tocyn arall. Mae tocynnau ar werth rhwng 22 Gorffennaf ac 16 Medi (sy'n golygu bod modd eu defnyddio nhw hyd at 30 Medi).

Mae modd defnyddio'r tocynnau mewn 12 canolfan Hamdden am Oes ar gyfer pob gweithgaredd sy'n briodol o ran oedran (rhaid bod yn 11 oed neu'n hŷn i ddefnyddio campfeydd. Mae modd i nofwyr medrus 8 oed a hŷn ddefnyddio ein pyllau ni heb oedolyn).

Dyma restr o'n canolfannau

  1. Canolfan Chwaraeon Abercynon
  2. Pwll Nofio a Champfa Bronwydd, Y Porth
  3. Pwll Nofio Glynrhedynog
  4. Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  5. Pwll Nofio'r Ddraenen Wen
  6. Canolfan Hamdden Llantrisant
  7. Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref
  8. Canolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn, Pontypridd
  9. Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  10. Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  11. Canolfan Hamdden Sobell
  12. Canolfan Hamdden Tonyrefail

 

 

Mae tocynnau haf yn ffordd wych o lenwi gwyliau hir yr haf.

Mae modd i'r rhai sydd adref o'r brifysgol ac eisiau cadw trefn ar eu hiechyd a'u lles (neu ddianc rhag y teulu!) ymweld ag unrhyw un neu bob un o'n 11 campfa, sydd, rhyngddyn nhw, yn llawn dop o'r offer Technogym diweddaraf, ardaloedd pwysau rhydd, WattBikes, peiriannau rhedeg, offer ymwrthedd a rhagor.

Ac i'r rheiny sydd eisiau treulio'u hamser yn nofio, mae 8 pwll gyda ni ac mae modd i chi ddefnyddio unrhyw un neu bob un ohonyn nhw mor aml ag y dymunwch chi gyda'r tocyn.

Llenwch eich amser rhydd gyda dosbarthiadau ffitrwydd – mae gyda ni gannoedd i ddewis o'u plith ac maen nhw'n cael eu cynnal o ben bore tan yn hwyr. Mwynhewch ffitrwydd ymarferol, Zumba, ioga, ymarferion cylch, erofeicio a phob math o weithgareddau eraill.

Dewch â'ch ffrindiau at ei gilydd a mwynhewch sesiwn campfa – mae gan bob canolfan staff arbenigol wrth law i’ch helpu chi i wneud y mwyaf o'ch ymarfer (a chadw'n ddiogel) – neu beth am fwynhau gêm o badminton, sboncen, pêl-fasged neu bêl-rwyd.

Useful information

  • Mae tocynnau ar werth rhwng 22 Gorffennaf ac 16 Medi 2023 ac mae modd eu defnyddio nhw hyd at 30 Medi.
  • Mae modd prynu tocynnau o unrhyw ganolfan Hamdden am Oes – dewch o hyd i'ch un agosaf yma.
  • Mae'r pasys yn agored i unrhyw un sydd mewn addysg amser llawn (boed yn yr ysgol, y chweched dosbarth, y coleg neu'r brifysgol)
  • Bydd gofyn i chi brofi eich bod chi'n fyfyriwr.
  • Mae gan fyfyrwyr amser llawn hawl i naill ai aelodaeth Hamdden am Oes Iau (os ydyn nhw o dan 18 oed) neu aelodaeth ostyngol i fyfyrwyr am £23.50 y mis drwy gydol y flwyddyn. Os oes diddordeb gyda chi mewn ymestyn eich tocyn a dod yn aelod, siaradwch â'r dderbynfa neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/hamdden
  • Mae tocynnau yn cynnig mynediad diderfyn i: bob campfa, pob pwll nofio (gan gynnwys dosbarthiadau yn y dŵr), dosbarthiadau ffitrwydd ar amserlen pob canolfan, yn ogystal â chwaraeon dan do gan gynnwys sboncen, badminton, tennis bwrdd a'r pyst pêl-fasged a phêl-rwyd.
  • Mae mynediad i'r uchod yn dibynnu ar derfynau oedran (rhaid bod yn 11 oed neu'n hŷn i ddefnyddio'r campfeydd) a niferoedd diogel ar gyfer y pyllau nofio. I gael rhagor o wybodaeth neu i wirio terfynau oedran, holwch eich Canolfan Hamdden am Oes leol.
Wedi ei bostio ar 17/07/2023