Bydd gwaith atgyweirio pwysig ar Bont Heol y Maendy yn Nhonpentre yn dechrau'n ddiweddarach y mis yma. Mae'r gwaith llawer yn fwy cymhleth o ganlyniad i isadeiledd gwasanaethau cyfleustodau ar y bont, bydd mesurau yn eu lle er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar y gymuned leol.
Mae'r B4223 Heol y Maendy'n mynd ar hyd y bont ar leoliad ger Gorsaf yr Heddlu, i'r de o'i chyffordd â'r Rhodfa. Mae cyflwr y strwythur yn wael iawn a bydd Calibre Contracting Ltd yn amnewid llawr y bont – gan ddechrau yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 24 Gorffennaf, ac yn gorffen ddiwedd y gaeaf.
Mae'r strwythur ei hun yn gymharol fach, ond mae'n cludo pibellau a chyfarpar allweddol ar gyfer dŵr, trydan a chysylltiadau ffibr optig. Bydd cyfran fawr o'r gwaith yn dargyfeirio ac yn ailosod y cysylltiadau – ac mae'r Cyngor yn ddibynnol ar argaeledd asiantaethau allanol i gyflawni'r gwaith ar y gwasanaethau cyfleustodau yma.
Mae'r cynllun yn gwbl hanfodol am fod y strwythur yn risg barhaus. Os nad yw'r atgyweiriadau'n cael eu cyflawni nawr, mewn modd sydd wedi'i gynllunio, byddai o bosibl angen cau'r bont ar frys yn y dyfodol. Byddai'r gwaith hwnna'n para'n hirach fyth. Gall cyflawni'r gwaith yma nawr hefyd olygu fod y Cyngor yn elwa o gyllid allweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer atgyweiriadau o ganlyniad Storm Dennis yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf (2023/24), na fyddai ar gael y flwyddyn nesaf.
Bydd angen mesurau rheoli traffig ar gyfer y cynllun.
Bydd dwy ffordd leol wedi'u cau er mwyn hwyluso'r gwaith yn y modd gorau – gweler y map canlynol ar wefan y Cyngor.
Y rhan gyntaf fydd yn cau yw'r bont ger rhifau 1 a 2, Heol y Maendy, am bellter o 17 metr. Bydd hyn yn hwyluso'r safle ac mewn lle drwy gydol y cynllun cyfan. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys. Bydd mynediad i gerddwyr ar y dechrau, ond bydd cyfnodau yn ystod y gwaith pan na fydd yn ddiogel cynnal mynediad – edrychwch am arwyddion lleol fydd yn cael eu haddasu.
Yr ail ran fydd yn cau yw Heol Pentwyn (rhwng 8am a 5pm bob dydd), am bellter o 12 metr o safle i'r gogledd-orllewin o Dyddyn y Maendy. Bydd y mesur yma'n atal traffig dyddiol rhag defnyddio Stryd Bailey yn llwybr amgen, er mwyn sicrhau diogelwch. Mae Stryd Bailey yn anaddas ar gyfer traffig trwm sydd fel arfer yn teithio ar y B4233, am ei bod yn stryd breswyl gul, ac am fod ysgol leol yno. Bydd gweithwyr yno yn ystod cyfnod cau'r ffyrdd, a bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr.
O ganlyniad, bydd y llwybrau amgen i yrwyr fel a ganlyn. Byddan nhw hefyd yn cael eu nodi ar y map sydd wedi'i gynnwys yn y ddolen uchod.
Rhwng 8am a 5pm, bydd y ddwy ffordd ar gau:
- O ochr ogledd-orllewinol y rhan o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol Pentwyn, Cilgant y Parc, Heol yr Orsaf, yr A4058 Stryd Fawr, Stryd Llywellyn, Stryd Ystrad, Heol Ystrad, Heol yr Eglwys a Stryd Bailey/Heol y Maendy.
- O ochr dde-ddwyreiniol y rhan o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol y Maendy/Stryd Bailey, Heol yr Eglwys, Heol Ystrad, Stryd Llywellyn, yr A4058 Stryd Fawr, Heol yr Orsaf, Cilgant y Parc, Heol Pentwyn a Heol y Maendy.
Dim ond Heol y Maendy fydd ar gau rhwng 8am a 5pm:
- O ochr ogledd-orllewinol y rhan o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol y Maendy, Heol Pentwyn, Cilgant y Parc, Heol yr Orsaf, yr A4058 Stryd Fawr, Stryd Llywellyn, Heol Ystrad a Heol yr Eglwys.
- O ochr dde-ddwyreiniol y rhan o'r ffordd sydd ar gau, ewch ar hyd Heol y Maendy, Heol yr Eglwys, Heol Ystrad, Stryd Llywellyn, Yr A4058 Stryd Fawr, Heol yr Orsaf, Cilgant y Parc, Heol Pentwyn a Heol y Maendy.
Mesurau ychwanegol er mwyn tarfu cyn lleied â phosib
Bydd y Cyngor yn rhoi cyfres o fesurau ar waith, gan gydnabod bydd y gwaith yn tarfu ar deithio. Bydd y rhain yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu llif traffig ar Stag Square yn Nhreorci, sy'n ffurfio rhan o lwybr y gwyriad.
Bydd traffig sy'n stopio ar Stag Square a ffyrdd cyfagos yn cael eu rheoli'n llymach, a bydd y Cyngor yn gweithio'n agos â busnesau lleol er mwyn trefnu bod nwyddau'n cael eu dosbarthu yn y modd mwyaf addas. Bydd trefn y goleuadau traffig yn cael eu haddasu er mwyn annog llif traffig, bydd casgliadau ailgylchu/gwastraff yn cael eu casglu'n gynnar yn y bore, a dim ond gwaith brys fydd yn cael ei ganiatáu ar ffyrdd sy'n rhan o lwybr y gwyriad.
Manylion am waith atgyweirio Pont Heol y Maendy
Mae'r cynllun yn cynnwys cael gwared ar ddec y bont a gosod dec pont newydd ar yr ategweithiau presennol. Bydd rhan ogleddol y bont (ochr yr ysgol) yn cael ei thynnu cyn i'r rhan newydd gael ei rhoi yn ei lle.
Bydd y brif bibell nwy ar y bont yn cael ei dargyfeirio'n barhaol ar hyd y llwybr troed gogleddol newydd, cyn i gyfarpar Openreach gael ei ddargyfeirio o dan y bont bresennol. Bydd rhan ddeheuol y bont (ochr gorsaf yr heddlu) yna'n cael ei thynnu cyn i'r rhan newydd gael ei rhoi yn ei lle. Bydd cyfarpar Openreach yna'n cael ei ddargyfeirio'n barhaol ar hyd y llwybr troed deheuol newydd.
Bydd y brif bibell ddŵr sy'n croesi'r afon drwy ategweithiau'r bont yn cael ei diogelu drwy gydol cyfnod y gwaith, ynghyd â'r garthffos gyfunol islaw'r cwrs dŵr. Bydd gwifrau trydan sy'n croesi'r bont ar y llwybr troed deheuol yn cael eu hynysu a'u tynnu oddi yno, cyn eu hailosod o fewn y llwybr troed newydd.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr, busnesau, gyrwyr a'r gymuned ehangach am eu hamynedd a chydweithrediad drwy gydol cyfnod y gwaith. Bydd y cynllun yn atgyweirio strwythur allweddol sy'n cludo'r brif ffordd yn y lleoliad yma, er budd hir dymor y gymuned. Bydd y Cyngor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gerrig milltir allweddol wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.
Wedi ei bostio ar 07/07/23