Bydd gwaith atgyweirio yn cael ei gynnal ar y bont ger cylchfan Stryd Harriet, Trecynon - bydd angen cau'r ffordd dros nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.
Mae'r bont wedi'i lleoli ar ochr ddeheuol yr A4059, mae angen cau'r A4059 am 5 noson rhwng cylchfan Stryd Harriet a chylchfan Stryd Meirion (Tresalem).
Bydd y ffordd ar gau rhwng 8pm a 6am, ddydd Llun 24 Gorffennaf i ddydd Gwener, 28 Gorffennaf. Bydd y ffordd yn ailagor am 6am, ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf.
Mae'r llwybr amgen yn mynd ar hyd yr A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr, Cylchfan Heol y Depo, yr A4233, Cylchfan Gadlys. Heol Gadlys, y B4275 Ffordd Hirwaun, Ffordd y Fynwent, Ffordd Hirwaun, Cylchfan Pen-y-waun a'r A4059 Ffordd Osgoi Aberdâr - neu mae modd dilyn y llwybr yma yn y drefn wrthdro.
Fydd dim mynediad ar gael i gerddwyr a cherbydau'r gwasanaethau brys.
Mae angen cynnal y gwaith atgyweirio hollbwysig ar y bont er mwyn diogelu'r strwythur a llwybr yr A4059 ar gyfer y dyfodol.
Mae'n anochel y bydd rhannau o'r gwaith yn achosi rhywfaint o sŵn, ond bydd contractwr y Cyngor, USL Ekspan, yn ceisio cadw lefelau sŵn mor isel â phosibl.
Mae'r cynllun atgyweirio yma'n cael ei gwblhau gan ddefnyddio cyllid refeniw'r Cyngor ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd.
Wedi ei bostio ar 19/07/2023