Mae Carfan Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf yn cefnogi achlysur coffa ‘Cofio Srebrenica', sy'n nodi 28 mlynedd ers yr hil-laddiad.
Bydd Theatr y Colisëwm yn Aberdar a Theatr y Parc a'r Dâr yn Treorci yn cael eu goleuo'n wyrdd i gofio am y dioddefwyr a myfyrio ar sut y mae modd i ni annog heddwch ac undod.
Mae arddangosfa hefyd yn cael ei harddangos yn Llys Cadwyn yn Pontypridd, sy'n manylu ar ryfel Bosnia ac yn tynnu sylw at hil-laddiad Srebrenica. Bydd yr arddangosfa yma'n cael ei harddangos tan ddydd Gwener (14 Gorffennaf).
Mae heddiw'n nodi'r diwrnod y dechreuodd yr hil-laddiad (11 Gorffennaf, 1995), a bydd bwrdd Cymru 'Cofio Srebrenica' yn arwain Taith Gerdded Heddwch o amgylch canol dinas Caerdydd.
Bydd yn dechrau am 6.30pm yng Nghastell Caerdydd o dan faner Srebrenica, a fydd yn cael ei chwifio.
Bydd y daith gerdded yn ymweld ag eglwys, synagog a mosg. Bydd taith fer a chyfle i fyfyrio ym mhob lleoliad.
Bydd y daith gerdded yn dychwelyd i Gastell Caerdydd tua 9.30pm i weld y castell wedi'i oleuo'n wyrdd. Bydd rhai geiriau i gofio i orffen.
Wedi ei bostio ar 11/07/2023