Skip to main content

Mae gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru yn dychwelyd yn 2023 ac mae'n fwy nag erioed!

Big Bite 2022-139

Mae'r achlysur poblogaidd yma'n dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ar 5 a 6 Awst, gyda dros 50 o stondinau, adloniant am ddim gan gynnwys arddangosfeydd coginio byw gyda chogyddion lleol, gardd gwrw a llawer mwy!

Eleni, mae mwy o reswm i ddathlu gan fod y parc yn dathlu ei ganmlwyddiant ar 6 Awst. Bydd Côr Meibion Pontypridd, Côr Cymuned Pontypridd a Sound of Wales Acapella i gyd yn perfformio yn safle’r seindorf. Bydd gweithgareddau am ddim eraill hefyd, gan gynnwys teithiau cerdded treftadaeth gyda thywyswyr a gweithgareddau chwaraeon ac archaeoleg gyda Gwasanaeth Treftadaeth y Cyngor.  

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Cegaid o Fwyd Cymru yw'r achlysur mwyaf yn ein calendr blynyddol prysur ac rydyn ni'n falch iawn o gael cyfle i gefnogi ac arddangos busnesau lleol a darparu adloniant am ddim i breswylwyr ac ymwelwyr mewn un penwythnos mawr! Roedd achlysur 2022 yn anodd ei drefnu gan fod nifer o gyflenwyr bwyd ddim ond yn dechrau adfer ar ôl cyfyngiadau Covid. Er gwaethaf hyn, daeth 30,000 o bobl i ymweld â Phontypridd. Eleni, rydyn ni wedi derbyn llu o geisiadau am stondinau a bydd dathliadau canmlwyddiant y parc yn sicrhau bod y penwythnos yn un i'w gofio i bobl Rhondda Cynon Taf a’r rheiny sy'n ymweld â'n Bwrdeistref Sirol."

Bydd yr achlysur ar agor 11am-5pm ar y ddau ddiwrnod, bydd mynediad am ddim a bydd modd gwylio perfformiadau byw. Byddwn ni'n cyhoeddi manylion y perfformiadau ar www.cegaidofwydcymru.co.uk a chyfryngau cymdeithasol @whatsonrct.

Bydd cogyddion lleol yn paratoi prydau yn y gegin arddangos a bydd cogydd ffyddlon yr ŵyl, Geoff Tookey, yn ymuno â nhw.

Bydd seidr, cwrw a gwirodydd gan gynhyrchwyr lleol megis Grey Trees Brewery, Hensol Castle Distillery a Gwynt y Ddraig ar gael yn ein Gardd Gwrw.

Bydd hefyd nifer o stondinau gwybodaeth a chelf a chrefft gyda digonedd o eitemau i fynd â nhw gartref i'w mwynhau.

Bydd modd i ymwelwyr fwynhau popeth sydd gan Barc Coffa Ynysangharad i'w gynnig, megis Lido Ponty neu ymweld â chanol tref hanesyddol Pontypridd i weld holl arlwy'r siopau. Bydd gan Ardal Gwella Busnes (BID) Pontypridd stondin yn yr achlysur er mwyn i ymwelwyr ddysgu rhagor am y bwytai sydd yn y dref.

Mae Cegaid o Fwyd Cymru 2023 wedi'i noddi gan gwmni Nathaniel Cars. Mae ei staff cyfeillgar yng Nghaerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn darparu ceir i drigolion Rhondda Cynon Taf a thu hwnt am fwy na 25 mlynedd.

Mae’r cwmni’n awyddus iawn i ddangos ei gefnogaeth a'i werthfawrogiad o'r gymuned, ac felly wedi noddi nifer o achlysuron Be' Sy Mlaen RhCT yn 2023, gan sicrhau hwyl ac adloniant i bawb.

I weld rhagor o wybodaeth am ein harddangoswyr a'r ŵyl, ewch i www.cegaidofwydcymru.co.uk a chadwch lygad ar @whatsonrct ar Facebook, Trydar ac Instagram i weld y newyddion diweddaraf.

I wybod rhagor am weddill achlysuron RhCT eleni, ewch i www.rctcbc.gov.uk/besymlaen

Wedi ei bostio ar 16/06/23