Skip to main content

Dedfryd o Garchar i Dipiwr Anghyfreithlon

Mae Steven Bouchard wedi derbyn dedfryd o garchar ar ôl iddo gael ei ddal yn tipio sbwriel yn anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf ar SAITH achlysur gwahanol.

Cafodd Mr Bouchard, sy'n 38 mlwydd oed ac yn byw ym Mhontypridd, ei ddal yn llygru sawl un o'n mannau hardd ledled y fwrdeistref sirol.

Gadawodd y troseddwr bron i 200 o fagiau du llawn gwastraff mewn tri lleoliad gwahanol, sef Heol Tŷ'r Injan, Llanwynno, Coedwig Pen-rhys, a Heol Pen-y-wal, Llanwynno. Roedd y gwastraff yn cynnwys llawer iawn o wastraff canabis a deunyddiau cysylltiedig, gan gynnwys pibellau awyru, lampau gwres, pridd ac eitemau eraill.

Mae'r achos yma'n amlygu unwaith eto nad yw'r Cyngor yn fodlon derbyn unrhyw oddefgarwch o ran taflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a baw cŵn. Byddwn ni'n manteisio i'r eithaf ar bob dull posibl er mwyn dal y rheiny sy'n gyfrifol am lygru ein trefi a'n mannau gwledig. DOES BYTH ESGUS!

Roedd gan y troseddwr yma drwydded i gario sbwriel, sy'n tynnu sylw at broblem amlwg ehangach yn y maes. Dylai trigolion sy'n dymuno defnyddio gwasanaethau o'r fath fod yn wyliadwrus! Os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared ar eich gwastraff, RHAID i chi wirio bod gyda nhw drwydded briodol. Hyd yn oed os oes gyda nhw drwydded, dylech chi gadw cofnod o'ch holl drafodion gyda nhw rhag ofn. Yn dilyn gwaith ein swyddogion gorfodi, ar y cyd â swyddogion Cyfoeth Naturion Cymru, bydd Mr Bouchard yn colli ei drwydded i gario sbwriel.

Plediodd Mr Bouchard yn euog i'r troseddau, ac fe dderbyniodd ddedfryd o garchar am 4 mis, wedi'i gohirio am 12 mis. Yn ogystal â hyn, mae hefyd yn destun Gorchymyn Adsefydlu am 15 diwrnod a rhaid iddo dalu costau o dros £2000.

Arweiniodd ymchwiliadau pellach y Cyngor, ar y cyd â Heddlu De Cymru, at atafaelu'r fan 'Transit' wen a gafodd ei defnyddio i dipio'r sbwriel o dan adran 165 o Ddeddf Traffig Ffyrdd. Cafodd y cerbyd ei wagio'n ddiweddarach gan Garfan Orfodi'r Cyngor, ac roedd yn llawn hyd yn oed rhagor o fagiau yn cynnwys gwastraff canabis, gwastraff cartref a thystiolaeth bellach yn ymwneud â Steven Bouchard. 

Yn ogystal â chynnal gwiriadau rheolaidd ledled y Fwrdeistref Sirol ac ymateb i bryderon sy'n dod i law, mae gan y Cyngor nifer o gamerâu cudd, symudol sy'n cael eu gosod mewn lleoliadau lle mae achosion o dipio'n anghyfreithlon.

Yn dilyn yr ymchwiliadau, cafodd Mr Bouchard i gyfweliad gyda charfan gorfodi'r Cyngor ar sawl achlysur a methodd â bod yn bresennol. Oherwydd difrifoldeb y troseddau a'r diffyg cydweithrediad ar ei ran, cafodd yr achos ei gyfeirio i Lys Ynadon Merthyr Tudful.

Cafodd y tipiwr anghyfreithlon didrugaredd ei anfon i'r llys am fethu â rheoli ei wastraff yn unol ag Adran 33, Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.

Mae Adran 33, Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990, yn nodi gwaharddiad ar dipio, trin neu waredu ar wastraff mewn modd anawdurdodedig.  Bydd unrhyw un sy'n methu â glynu wrth y ddeddf yma'n wynebu dirwy fawr, yn yr un modd â'r tipiwr anghyfreithlon yn yr achos yma!

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

 "Fyddwn ni ddim yn caniatáu tipio'n anghyfreithlon yn ein bwrdeistref sirol. BYTH. Does BYTH esgus i ddifetha'n trefi, ein strydoedd na'n pentrefi gyda'ch gwastraff, a byddwn ni'n dod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol ac yn eu dwyn i gyfrif.

"Fel y mae'r achos yma'n ei ddangos, rydyn ni'n ymchwilio i BOB adroddiad am dipio'n anghyfreithlon a byddwn ni'n darganfod yr holl fanylion fel y dysgodd Mr Bouchard. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol a gallai arwain at ddirwyon mawr, cofnod troseddol a hyd yn oed dedfryd o garchar.

"Mae cael gwared ar wastraff wedi'i dipio'n anghyfreithlon yn ein Bwrdeistref Sirol yn costio miloedd o bunnoedd – arian allai gael ei wario ar wasanaethau rheng flaen allweddol.

“Byddwn ni'n defnyddio POB pŵer sydd ar gael inni, i ddwyn i gyfrif y rheini sy'n gyfrifol am eu gweithredoedd. Mae llawer o'r eitemau rydyn ni'n eu clirio oddi ar ein strydoedd, ein trefi a'n mynyddoedd yn eitemau y mae modd eu hailgylchu neu waredu mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, neu hyd yn oed eu casglu o ymyl y ffordd heb unrhyw gost ychwanegol."

Er na fyddai'r eitemau a amlygwyd yn yr achos yma yn cael eu derbyn wrth ymyl y ffordd nac mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned, mae'r rhan fwyaf o'r eitemau a gaiff eu darganfod gan y garfan orfodi fel arfer yn eitemau cyfreithiol o'r cartref! Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ailgylchu deunydd sych, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau diderfyn bob wythnos, yn rhad ac am ddim. Mae gyda ni hefyd chwe chanolfan ailgylchu yn y gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol. Does yna FYTH esgus dros dipio'n anghyfreithlon, yn enwedig os byddwch chi’n cael gwared ag eitemau sy'n gallu cael eu casglu o ymyl y ffordd neu'u hailgylchu yma yn Rhondda Cynon Taf.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut i roi gwybod i ni am achosion o dipio'n anghyfreithlon, materion ailgylchu a chanolfannau ailgylchu yn y gymuned yn RhCT, dilynwch y Cyngor ar Facebook/Twitter neu ewch i www.rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 30/03/2023