Mae busnesau yn Nhreorci yn cael eu hannog i gefnogi ymgyrch newydd Gymraeg, sy'n annog cwsmeriaid i ddechrau eu sgyrsiau yn Gymraeg.
Mae'r ymgyrch wedi cael ei lansio gan Wasanaethau Cymraeg y Cyngor, ac yn ceisio hyrwyddo'r Gymraeg ledled ein Bwrdeistref Sirol drwy ofyn i'r gymuned fusnes lleol annog eu cwsmeriaid i ddechrau eu sgyrsiau yn Gymraeg.
Mae hyn yn cyd-fynd â Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg pum mlynedd y Cyngor, sy'n ceisio cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf ac yn annog pobl o bobl gallu i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn lleoliadau cymdeithasol.
Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio yn Nhreorci gyda'r nod o'i chyflwyno ledled Rhondda Cynon Taf, cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â Rhondda Cynon Taf yn 2024 am y tro cyntaf ers born i 70 mlynedd.
Eisteddfod Genedlaethol 2024 yn Rhondda Cynon Taf
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rydyn ni'n gofyn i'n holl fusnesau yn Nhreorci a ledled Rhondda Cynon Taf i annog eu cwsmeriaid i ddechrau eu sgyrsiau yn Gymraeg, boed yn gyfarchiad syml neu archebu yn Gymraeg.
"Er mwyn sicrhau fod yr ymgyrch yn llwyddiannus, rydyn ni angen i'r gymuned gyfan gymryd rhan - ein busnesau a phreswylwyr o bob oedran a gallu siarad Cymraeg.
"Rydyn ni hefyd angen cefnogaeth ein hysgolion lleol, i annog eu disgyblion i ddefnyddio'r Gymraeg cymaint â phosib."
Bu ysgolion lleol yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio logo ar gyfer yr ymgyrch, â'r dyluniad buddugol wedi'i greu gan Lola Jones o Ysgol Iau Tonpentre. Ymwelodd y Cynghorydd Rhys Lewis a'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu â'r ysgol i longyfarch Lola, disgybl ym Mlwyddyn Chwech ar ei llwyddiant. Bydd logo'r ymgyrch yn cael ei arddangos gan fusnesau sy'n rhan o'r ymgyrch yn Nhreorci a ledled Rhondda Cynon Taf.
Wedi ei bostio ar 30/03/23