Skip to main content

Cynnal gwaith i drwsio rhan o wal yr afon ar Heol Berw

Berw Road wall repair works

Bydd gwaith hanfodol i drwsio’r wal gynnal ar ran ogleddol Heol Berw, Pontypridd, yn dechrau'r wythnos nesaf - gan gynnal llif y traffig i'r ddau gyfeiriad.

Mae'r Cyngor wedi penodi Kaymac Marine and Civil Engineering Ltd i gynnal y gwaith yma, a fydd yn dechrau ddydd Llun, 6 Tachwedd.

Mae disgwyl i'r gwaith i drwsio'r wal gerrig ger yr afon bara pedair wythnos - mae hyn yn cynnwys ailadeiladu rhan fach o'r strwythur.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal cyferbyn â chae Heol Berw, rhwng cyffordd Heol Berw â Theras Lewis a Heol Graig-yr-hesg.

Bydd modd i'r contractwr gynnal llif y traffig i'r ddau gyfeiriad yn ystod y gwaith, ond bydd angen defnyddio byrddau Stop/Go o bryd i'w gilydd er mwyn cludo nwyddau i'r safle. Bydd hyn yn para 30 munud ar y mwyaf a bydd y contractwr yn trefnu bod hyn yn digwydd tu allan i oriau brig er mwyn lleihau aflonyddwch.

Ni fydd modd defnyddio'r mannau parcio cyferbyn â safle'r gwaith ar Heol Berw trwy gydol y gwaith.

Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn rhan o raglen ar gyfer gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis yn 2023/24, sy'n cael ei hariannu'n gyfan gwbl gan Lywodraeth Cymru.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 03/11/2023