Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gofyn i'w breswylwyr fod yn ystyriol a chofio rhoi gweddillion bwyd a mwydion pwmpenni yn eu cadis gwastraff bwyd wrth ddathlu Calan Gaeaf eleni!
Tynnodd dadansoddiad diweddar o fagiau du ymyl y ffordd gan WRAP o Rondda Cynon Taf sylw at y newyddion arswydus bod ein gwastraff bagiau du yn y sir yn cynnwys 39% o eitemau gwastraff bwyd a allai fod wedi cael eu hailgylchu! Mae hyn yn llawer uwch na ffigwr "Cymru gyfan", sydd yn 25%!
Mae gwastraff bwyd yn cyfrannu at 8-10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr - sy'n swm syfrdanol. Er bod rhai eitemau fel croen ffrwyth a phlisgyn wyau yn anfwytadwy, mae modd eu hailgylchu yn rhan o gynllun ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol AM DDIM Rhondda Cynon Taf.
Cofrestrwch ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd yma: www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.
Bob blwyddyn, mae mwy na miliwn o bwmpenni'n cael eu gwerthu yn y DU. Mae 99% o'r rhain yn cael eu defnyddio i gerfio llusernau.
Bydd miloedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol hefyd yn cerfio pwmpenni, trochi am afalau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau brawychus yn eu cartrefi.
Er bod cerfio pwmpenni yn weithgaredd llawn hwyl, rydyn ni am atgoffa preswylwyr i ailgylchu pwmpenni a gweddillion afalau yn eu cadi gwastraff bwyd. Bydd y gwastraff yma'n cael ei gasglu o ymyl y ffordd ar ôl Calan Gaeaf, yn unol â'n trefn wythnosol arferol!
Mae Cymru’n ofnadwy o dda yn ailgylchu, gyda’r cyfraddau ailgylchu presennol yn ein gosod ni yn y trydydd safle o'r brig, a hynny o blith holl wledydd y byd!
Rhwng mis Ebrill 2022 ac Ebrill 2023, ailgylchodd preswylwyr Rhondda Cynon Taf fwy na 56,534 o dunelli. Y newyddion brawychus yw y bu’n rhaid taflu dros 3,439 tunnell ychwanegol gan fod y deunydd wedi'i halogi - byddai hynny wedi arwain at 6% yn rhagor o ddeunydd wedi'i ailgylchu. Dyna wastraff o ran ein hymdrech ailgylchu!
Cafodd 11,400 o dunelli o wastraff bwyd ei gasglu yn ystod yr un cyfnod - sy'n swm syfrdanol. SERCH HYNNY roedd rhaid taflu mwy na 419 o dunelli oherwydd eu bod wedi'u halogi. Dyna bron i 4% yn fwy o wastraff bwyd a fyddai wedi gallu cael ei ailgylchu!
Y newyddion da ydy bod digon o ynni wedi'i gasglu o'r gwastraff bwyd a gafodd ei ailgylchu i bweru tua 1,100 o aelwydydd! Mae gwastraff bwyd yn bŵer!
Mae modd i bawb gyfrannu at nod y Cyngor o leihau nifer yr eitemau sydd wedi'u halogi. Bydd hyn yn sicrhau bod ein holl ymdrechion i ailgylchu ddim yn mynd yn ofer. Helpwch y blaned drwy olchi neu rinsio unrhyw becynnau sydd ag olion bwyd ynddyn nhw cyn eu rhoi yn y bag ailgylchu clir. Gallwch ddefnyddio'r dŵr sy'n weddill ar ôl golchi'r llestri i wneud hyn.
Gall yr un tun yna, gydag ychydig o weddillion bwyd, achosi bag cyfan o eitemau i beidio â chael ei ailgylchu – neu gallai hyd yn oed ddifetha lori lawn o eitemau. Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Drwy lwc, mae gan Rondda Cynon Taf adnodd chwilio A-Y sydd ar gael 24/7 i drigolion ei ddefnyddio!
Mae gêm newydd bellach ar gael i wrachod ac ysbrydion bach brofi eu gwybodaeth am ailgylchu dros hanner tymor, gan ddarganfod beth mae modd ei ailgylchu a ble mae angen rhoi pob eitem - ewch i www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu. Mae yna hefyd rai crefftau cŵl i roi cynnig arnyn nhw, ac mae pob un ohonyn nhw wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu - ewch i www.rctcbc.gov.uk/AddysgAilgylchu.
Rydyn ni'n cymryd camau MAWR yn Rhondda Cynon Taf er mwyn ailgylchu a lliniaru effaith arswydus newid yn yr hinsawdd. Ym mis Gorffennaf eleni, newidiodd y Cyngor ei gasgliadau bagiau du a biniau ar olwynion i rai bob tair wythnos er mwyn ceisio cynyddu cyfraddau ailgylchu a lleihau allyriadau carbon! Hyd yn hyn, mae cyfraddau ailgylchu cynnar gwastraff bwyd a deunyddiau sych yn awgrymu bod y cyfraddau'n cynyddu a bod gwastraff bagiau du ar y cyfan yn lleihau - sy'n golygu bod ein trigolion ni'n mynd i'r afael â her 'CYNYDDU ein Cyfraddau Ailgylchu' er mwyn i ni 'Fwrw'r TARGED!' Os ydyn ni i gyd yn parhau â'n hymdrechion MAWR, bydd Rhondda Cynon Taf yn ailgylchwyr heb eu hail!
Cyflwynodd y Cyngor sachau gwyrdd cynaliadwy y mae modd eu hailddefnyddio ar gyfer casgliadau gwastraff gwyrdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae hyn wedi helpu'r Cyngor i sicrhau gostyngiad o filiynau o fagiau ailgylchu clir plastig bob blwyddyn. Mae'r newidiadau yma i'r gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd a'r newidiadau arfaethedig i wasanaeth trefnu Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn helpu i leihau ôl troed carbon y Cyngor. Maen nhw hefyd yn dod â ni'n nes at gyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024/25.
Mae Calan Gaeaf hefyd yn amser gwych i glirio'r sgerbydau o'ch cypyrddau a chael gwared ar eich hen bethau llychlyd!
Ewch ati i glirio'r garej neu'r ystafell sbâr a rhoi bywyd newydd i rai o'ch hen eitemau. Gallwch chi fynd â nhw i siopau'r Sied yn Llantrisant, Aberdâr neu Dreherbert, neu alw heibio un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Mae'r rhain wedi'u lleoli ledled Rhondda Cynon Taf.
Drwy fynd â'ch hen eitemau i un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, byddwch chi'n sicrhau bod yr eitemau yn cael eu hailgylchu a’u troi’n drysorau newydd! Pwy a ŵyr, efallai eich hen focs teganau fydd y cylchgrawn nesaf i chi ei brynu. Byddwch chi hefyd yn clirio rhywfaint o le yn eich tŷ.
Cofiwch ddidoli eich gwastraff cyn i chi alw heibio'r ganolfan. Dydyn ni ddim yn derbyn eitemau cymysg.
Mae staff ar gael ym mhob un o'r canolfannau. Byddan nhw'n barod i roi cyngor ar faterion ailgylchu a'ch helpu i gael gwared ar y deunydd o'ch cartref.
O ddydd Llun 30 Hydref, bydd gan y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned oriau agor newydd – 8am tan 5.30pm.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae Calan Gaeaf yn gyfnod gwych i deuluoedd fwynhau eu hunain. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n cofio meddwl am yr amgylchedd ac yn ailgylchu'r holl wastraff ychwanegol.
“Mae ein preswylwyr wedi gwneud ymdrech wych i ailgylchu'u gwastraff bwyd yn wythnosol hyd yma. Hoffwn ddiolch i bawb yn ein Bwrdeistref Sirol am wneud ei ran.
"Y newyddion gwych yw bod fwyfwy o'n trigolion yn ystyried yr amgylchedd bob dydd ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dystiolaeth o hyn. Rydyn ni'n gofyn i'r holl wrachod ac ysbrydion bach (a mawr) ailgylchu eu holl wastraff brawychus y Calan Gaeaf yma."
Mae'n haws nag erioed i chi ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n cynnal casgliadau diderfyn ac mae gyda ni amrywiaeth o leoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol y mae modd i chi fynd atyn nhw i gasglu eich bagiau ailgylchu! Mae modd i chi hefyd gofrestru ar gyfer gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd a chewynnau ar-lein. Yn ogystal â hyn, mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar draws y Fwrdeistref Sirol ar agor 7 niwrnod yr wythnos, rhwng 8am a 7.30pm (Mawrth - Hydref) ac 8am - 5.30pm (Tachwedd - Mawrth).
Mae modd ailgylchu 80% o wastraff y cartref ar gyfartaledd - sy'n golygu bod modd ailgylchu 8 allan o bob 10 bag o sbwriel sy'n dod o gartrefi, a'u troi yn rhywbeth newydd.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch ni ar Twitter/Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r awgrymiadau canlynol ar gyfer dathlu 'Calan Gaeaf Gwyrdd'
- Ceisiwch ddefnyddio cyn lleied o blastig â phosibl.
- Os ydych chi'n bwriadu cael parti Calan Gaeaf, peidiwch ag anfon gwahoddiadau papur.
- Osgoi defnyddio platiau untro (tafladwy) mewn partïon Calan Gaeaf.
- Ar ôl eich parti, rhowch unrhyw wastraff bwyd yn eich bin ailgylchu i'w gasglu.
- Gwnewch wisgoedd Calan Gaeaf drwy ailddefnyddio hen ddillad, eu prynu o siopau elusen neu gymryd rhan mewn siop swap.
- Defnyddiwch gnawd y bwmpen fel prif gynhwysyn mewn pryd blasus fel cawl pwmpen, pei pwmpen neu risoto pwmpen rost. Mae modd i chi hefyd ddefnyddio pwmpen fel dewis rhad a blasus yn lle tatws melys https://www.lovefoodhatewaste.com/cy.
- Gall hyd yn oed hadau'r pwmpenni fod o ddefnydd da – tostiwch nhw'n sych mewn padell sych neu eu rhostio yn y ffwrn, a'u storio mewn jar aerglos. Maen nhw'n ychwanegiad iach iawn ar gyfer cawl, pasta, miwsli neu salad.
- Unwaith i chi orffen gyda chragen eich pwmpen, cofiwch ei chompostio neu ei gosod ar ben eich bin gwastraff bwyd i'w gasglu.
Wedi ei bostio ar 30/10/2023