Skip to main content

Gwaith ar y bont o dan Heol Llanwynno yn Stanleytown

Llanwonno Road railway bridge, Stanleytown 2

Mae cam cychwynnol o waith bellach yn cael ei gynnal er mwyn cryfhau pont yn Stanleytown. Mae Heol Llanwynno yn mynd ar hyd y bont dros y llwybr i'r gymuned.

Roedd goleuadau traffig dros dro eisoes wedi cael eu gosod ar y bont i liniaru pwysau cerbydau ar y bont. Cawson nhw eu gosod yn dilyn arolygiad eleni a nododd fod gan y bont ddiffygion arwyddocaol.

Mae'r gwaith a ddechreuodd ddydd Llun 18 Medi yn cynnwys paratoi i osod system gynnal ar y bont.

Bydd y contractwr, Hammonds (ECS) Ltd, ar y safle am tua phythefnos i adeiladu llwybr troed newydd o dan y bont, yna bydd yn gosod sylfeini concrit ar gyfer y system gynnal ar safle'r llwybr troed presennol. Bydd mynediad ar gael i gerddwyr a beicwyr trwy gydol y gwaith.

Bydd modd gosod system gynnal unwaith y bydd y sylfeini concrit wedi'u caledu ddigon, a bydd modd symud y goleuadau traffig ar Heol Llanwynno o'r safle.

Mae'r Cyngor hefyd wedi penodi ymgynghorwyr i edrych ar yr opsiynau hirdymor o ran y bont, sydd wrthi'n cael eu datblygu. Bydd yr opsiynau yma'n cael eu rhannu gyda thrigolion maes o law.

Diolch ymlaen llaw am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith yma.

Wedi ei bostio ar 19/09/23