Bydd gwaith adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman yn dechrau'r wythnos nesaf er mwyn cryfhau'r isadeiledd yn Nant Aman Fach fydd yn lliniaru llifogydd yn yr eiddo cyfagos. Mae disgwyl i'r cynllun darfu cyn lleied â phosibl drwy gydol y cyfnod gwaith.
Mae'r Cyngor wedi penodi Calibre Contracting Ltd i gyflawni'r gwaith, fydd yn dechrau ddydd Llun, 25 Medi. Nod y cynllun yw lliniaru risg llifogydd ar gyfer oddeutu 78 eiddo preswyl ar Heol Glanaman a Brynhyfryd - gyda'r cwrs dŵr cyffredin yn llifo gerllaw'r ddwy stryd yma.
Bydd y cynllun yn cynyddu capasiti'r rhwydwaith presennol - drwy wella wal rhwng y cwrs dŵr a'r clwb cymdeithasol, ac adeiladu wal newydd rhwng y cwrs dŵr a Heol Glanaman / Brynhyfryd. Bwriad y gwaith yw cyfeirio llif dŵr dros y tir at strwythurau rheoli presennol, os yw’r afon yn gorlifo o ganlyniad i law eithafol. Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau ddechrau’r Gwanwyn 2024.
Er mwyn cyflawni gwaith y cynllun, sydd hefyd yn cynnwys dargyfeirio cyfleustodau, bydd angen cau'r lôn rhwng Heol Glanaman a Brynhyfryd. Bydd arwyddion i’w gweld ar hyd y ddwy ffordd yma.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol gan Raglen Gyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r cynllun yma, gan elwa ar gyfraniad 85% tuag at gyfanswm y gost.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y gwaith pwysig yma yng Nghwmaman yn darparu buddsoddiad gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd mewn mesurau lliniaru llifogydd sydd â’r nod o liniaru risg llifogydd ar gyfer y gymuned. Mae’r gymuned wedi'i nodi’n ardal risg uchel yn ystod tywydd eithafol.
"Rydyn ni wedi croesawu cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cynllun yma, yn rhan o becyn ehangach gwerth £4.8 miliwn ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd ledled Rhondda Cynon Taf yn 2023/24. Mae'r cymorth yma gan y rhaglenni Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Grant Gwaith ar Raddfa Fach ar wahân i'n buddsoddiad Rhaglen Gyfalaf ni. Mae'r ddau fath o gyllid yma’n rhoi cyfle i ni barhau â'n rhaglen o dros 100 cynllun lliniaru llifogydd.
"Rydyn ni'n parhau i wneud cynnydd cadarnhaol tuag at ddarparu ein cynlluniau ar raddfa fawr gan ddiogelu cymunedau sy'n wynebu risg llifogydd. Wrth i’r gwaith yng Nghwmaman ddechrau ddydd Llun, mae'r Cyngor hefyd yn dechrau ymgynghoriad cyhoeddus helaeth ar gyfer Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn y dyfodol - gan ddilyn proses debyg i Gynllun Lliniaru Llifogydd Pentre gafodd ei gyflawni dros yr haf. Mae gwaith pwysig i wella cwlferi hefyd yn dechrau ar Stryd y Parc yn ardal Tylorstown ar 25 Medi, cyn cynllun ehangach ar gyfer yr ardal yn y dyfodol.
"Does dim disgwyl i waith adeiladu Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman darfu llawer ar y gymuned. Mae angen cau'r lôn rhwng Heol Glanaman a Brynhyfryd am ei bod mor agos at y safle gwaith - ond bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal yn ardal y cwrs dŵr. Diolch i drigolion ac i'r gymuned ehangach ymlaen llaw am eich cydweithrediad wrth inni ddarparu'r cynllun pwysig yma er mwyn lleihau risg llifogydd."
Wedi ei bostio ar 22/09/23