Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd i'r cyhoedd yn Rhondda Cynon Taf. Darllenwch yr holl wybodaeth am Storm Darragh yn ofalus.
Mae disgwyl i'r glaw ddechrau ganol prynhawn a dwysáu. Mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd rhagor o law parhaus yn cyrraedd tua 3am gyda llawer o law yn gollwng yn ystod y cyfnod OREN.
Yn ogystal â'r glaw trwm, mae perygl difrifol o wyntoedd cryf. Mae disgwyl i wyntoedd ddod o gyfeiriad anarferol sy'n cynyddu'r posibilrwydd o darfu a'r perygl o goed yn cwympo, felly cymerwch ofal arbennig. Mae ardaloedd cyfagos o dan RYBUDD COCH am wynt, gyda'r posibilrwydd o hyrddiau cryf iawn
Tywydd
RHYBUDD MELYN: GLAW 15:00 HEDDIW – 03:00 DYDD SADWRN
RHYBUDD OREN: GLAW 03:00–18:00 DYDD SADWRN
RHYBUDD OREN: GWYNT 01:00–21:00 DYDD SADWRN
RHYBUDD MELYN: GWYNT 21:00 DYDD SADWRN – 06:00 DYDD SUL
Mae disgwyl i'r glaw sylweddol, ar ben yr amodau dirlawn presennol, achosi heriau ledled y rhanbarth.
Yr hyn rydyn ni wedi'i wneud / yn ei wneud
Rydyn ni'n deall pryderon y cyhoedd ac rydyn ni'n mynd ati'n rhagweithiol i ddosbarthu bagiau tywod i'r ardaloedd lle mae'r perygl mwyaf a welodd llifogydd yn ystod Storm Bert. Mae carfanau'n dosbarthu'r rhain ar hyn o bryd. Bydd carfanau'n gweithio drwy gydol y cyfnod, dros nos a dros y penwythnos, i ymateb i argyfyngau.
Bydd staff yn ein hystafell rheoli argyfyngau drwy gydol y cyfnod, a bydd camerâu teledu cylch cyfyng a larymau ar geuffosydd yn cael eu monitro.
Bydd carfanau ychwanegol, ochr yn ochr â chontractwyr, yn gweithio drwy gydol y cyfnod i ymateb i argyfyngau. Mae offer ychwanegol wedi'u cyflwyno i helpu, megis JCBs i glirio malurion o geuffosydd a choed os ydyn nhw'n cwympo.
Ers Storm Bert, mae ein hoffer glanhau gylïau a chwistrellu dŵr i gyd wedi bod ar waith bob awr o'r dydd i glirio draeniau, ac mae carfanau wedi symud cannoedd o dunelli o falurion a lifodd oddi ar lethrau'r mynyddoedd i geuffosydd.
Afonydd
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf i lefel CANOLIG ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul, sy'n golygu bod disgwyl llifogydd. Dyma ragor o wybodaeth
Mae modd i chi gofrestru i dderbyn Rhybuddion Llifogydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma.
Rhoi gwybod am broblem
Os oes perygl o niwed i fywyd, ffoniwch 999 bob tro.
Os oes perygl o niwed i fywyd, ffoniwch 999 bob tro. I roi gwybod i'r Cyngor am argyfwng, ffoniwch 01443 425011. Os oes gyda chi bryderon ond does dim perygl o niwed i berson neu eiddo, rhowch wybod gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein:
- Rhowch wybod i ni am rwystrau/coed sydd wedi cwympo yma
- Rhowch wybod i ni am rwystrau mewn draeniau/ceuffosydd yma
Peidiwch â chysylltu â ni ar y cyfryngau cymdeithasol mewn argyfwng.
Cyngor ar ddiogelwch
Dylai eiddo a busnesau sydd ag offer amddiffyn rhag llifogydd wirio eu hoffer a'u gosod yn ôl yr angen, neu fod yn barod i'w defnyddio os oes angen.
Dylech chi baratoi eiddo sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol neu sydd mewn perygl o lifogydd. Dyma ragor o wybodaeth ar baratoi am lifogydd
Peidiwch â theithio oni bai bod y daith yn gwbl hanfodol. Bydd amodau gyrru anodd oherwydd gwynt a glaw. Mae disgwyl dŵr ar wyneb ffyrdd, a bydd gwyntoedd cryf yn debygol o achosi i goed gwympo.
Ffoniwch 01443 425011 i roi gwybod am unrhyw broblemau. Os oes perygl o niwed i fywyd, ffoniwch 999 bob tro.
Newidiadau cyfredol i wasanaethau'r cyngor (efallai bydd trefniadau'n newid)
DYDD SADWRN (RHAGFYR 7)
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned AR GAU
Ogof Siôn Corn ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda AR GAU
Achlysuron chwaraeon WEDI'U CANSLO
Canolfannau Hamdden AR GAU
Parciau AR GAU
Theatrau AR GAU
Llyfrgelloedd AR GAU
Mynwentydd ac Amlosgfeydd AR GAU
DYDD SUL (DEC 8)
Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned AR GAU
Achlysuron chwaraeon WEDI'U CANSLO
Parciau AR GAU
Mynwentydd ac Amlosgfeydd AR GAU
Cysylltiadau defnyddiol
Dim trydan? Rhowch wybod
Carthffosydd yn gorlifo: Dŵr Cymru, 0800 052 0130
Argyfyngau Nwy: Y Gwasanaeth Argyfwng Nwy Cenedlaethol, 0800 111 999
Afonydd yn gorlifo: Cyfoeth Naturiol Cymru, 0300 065 3000
Wedi ei bostio ar 06/12/2024