*Y DIWEDDARAF: 06/12/24 - Rhybudd tywydd ambr ar gyfer glaw wedi'i gyhoeddi ar gyfer dydd Sadwrn
Dyma gynghori preswylwyr bod cyfres o rybuddion tywydd gan y Swyddfa Dywydd mewn grym y penwythnos yma yn ystod Storm Darragh – ac mae hyn yn cynnwys rhybudd Ambr ar gyfer gwynt trwy gydol dydd Sadwrn, 7 Rhagfyr.
Rhagwelir y bydd storm Darragh yn dod â thywydd ansefydlog o brynhawn dydd Iau (5 Rhagfyr) tan fore Sul (8 Rhagfyr). O brynhawn dydd Iau, mae gan y Swyddfa Dywydd y rhybuddion canlynol yn eu lle:
- Prynhawn dydd Iau i fore Gwener – rhybudd tywydd MELYN ar gyfer gwyntoedd cryfion gyda’r posibilrwydd o law trwm.
- Prynhawn dydd Gwener i fore Sadwrn – rhybuddion tywydd MELYN ar wahân ar gyfer gwyntoedd cryfion a glaw trwm.
- Bore dydd Sadwrn hyd nos Sadwrn – *rhybudd tywydd AMBR ar gyfer gwyntoedd cryfion, a allai achosi difrod, a glaw trwm.
- Nos Sadwrn i fore Sul – rhybudd tywydd MELYN ar gyfer gwyntoedd cryfion sy’n dod i ben yn gynnar yn y bore.
Cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw rhybuddion llifogydd a llifogydd afonydd a’r Swyddfa Dywydd sy’n gyfrifol am rybuddion tywydd. Rydyn ni'n annog preswylwyr i ddilyn yr wybodaeth ddiweddaraf sy'n cael ei darparu gan y sefydliadau yma.
Sylwch, gall y rhybuddion yma newid dros y dyddiau nesaf - rydyn ni'n cynghori preswylwyr i barhau i wirio tudalen rhybuddion tywydd y Swyddfa Dywydd ar ei gwefan, sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd. Cliciwch yma.
Er mwyn paratoi ar gyfer y rhybudd tywydd AMBR ar gyfer gwyntoedd cryf, cynghorir preswylwyr i ddiogelu strwythurau rhydd ymlaen llaw. Yn ystod cyfnod y rhybudd, rydyn ni'n cynghori preswylwyr i gadw draw o ardaloedd coediog, cymryd gofal ar dir uchel a ffyrdd mynyddig, ac osgoi gyrru os ydyn nhw'n ansicr ynghylch yr amodau.
Os bydd preswylwyr yn cael unrhyw broblemau yn ystod Storm Darragh, ffoniwch y Cyngor ar 01443 425001 (yn ystod oriau dydd) neu 01443 425011 (y tu allan i oriau). Mae modd rhoi gwybod am lifogydd ar ein gwefan - rhagor o wybodaeth yma.
Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r rhybuddion tywydd sy'n newid a'r nodiadau gwybodaeth, ynghyd â'n rhagolygon ein hunain sy'n rhoi'r diweddaraf bob awr. Bydd y garfan yn parhau i fod ar ddyletswydd drwy gydol cyfnod y rhybudd tywydd, gyda'r holl adnoddau wrth gefn sydd ar gael os bydd angen. Bydd swyddogion hefyd yn monitro camerâu byw a data dyfeisiau telemetreg mewn perthynas â lefelau dŵr a glaw.
Yn ystod y diwrnodau cyn y tywydd garw yma, mae Carfan Draenio Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn gwirio asedau â blaenoriaeth a'r rheiny heb flaenoriaeth, gan gynnwys cwlferi. Mae'r gwaith rhagweithiol yma'n nodi rhwystrau a malurion, a'u clirio, er mwyn lleihau perygl llifogydd. Os byddwch chi'n gweld draen neu gwlfer sydd wedi'i rwystro cyn y rhybudd, mae modd i chi roi gwybod i ni er mwyn i'r garfan gynnal gwaith archwilio a chlirio.
Cyn cyfnod y rhybudd tywydd, mae nifer o gamau y mae modd i breswylwyr eu cymryd i baratoi – mae'r rhain i'w gweld yn fanwl ar ein tudalen we bwrpasol Parodrwydd Llifogydd ac Ymwybyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys cyngor pwysig am ddefnyddio offer i amddiffyn cartrefi, paratoi cynllun llifogydd, cofrestru ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf am rybuddion tywydd a sut i roi gwybod am lifogydd.
Mae ein hymgyrch ‘Cofiwch eich Cymdogion’ hefyd yn cynnwys cyngor allweddol am roi gwybod am rwystrau mewn draeniau a chwteri, ac yn amlinellu'r camau bach y gall preswylwyr eu cymryd, er enghraifft, symud dail neu sbwriel sy'n hawdd eu cyrraedd oddi ar wyneb rhwyllau neu ddraeniau ger eu heiddo neu yn eu stryd.
Bydd y Cyngor yn rhoi cyngor a gwybodaeth bwysig ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd – 'CyngorRhCT' ar X a 'Cyngor Rhondda Cynon Taf' ar Facebook.
Wedi ei bostio ar 06/12/24