Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi calendr hwyliog yn llawn achlysuron ar gyfer 2024 - eleni, byddwn ni'n croesawu Eisteddfod Genedlaethol Cymru i'r Fwrdeistref Sirol!
Mae'r hwyl yn dechrau yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar 27 a 28 Mawrth pan fydd Bwni'r Pasg yn cynnal achlysur Ŵy-a-sbri y Pasg. Bydd atyniadau newydd yn yr achlysur eleni, felly cadwch lygad am ragor o fanylion amdanyn nhw. Bydd manylion am brynu tocynnau'n cael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae Gŵyl Aberdâr yn cyrraedd Parc Aberdâr ar 25 Mai ac os ydych chi'n mynd i'r parc, byddwch chi'n siŵr o gael syrpreis wrth i achlysur Picnic y Tedis ymuno â'r ŵyl am y tro cyntaf. Eleni, bydd Picnic y Tedis yn teithio o amgylch Rhondda Cynon Taf, a Gŵyl Aberdâr yw'r man cyntaf ar y daith. Mae Gŵyl Aberdâr yn cynnig cerddoriaeth fyw, ffair, adloniant i blant, stondinau bwyd a chrefftau, ac mae bob tro'n rhan wych o'n calendr achlysuron blynyddol. Cofiwch fod modd dod o hyd i fanylion am Ŵyl Aberdâr ar www.gwylaberdar.co.uk. Byddwn ni'n diweddaru'r wefan cyn gynted ag y bydd pob gweithgaredd yn cael ei gadarnhau.
Dyma'r rhaglen lawn ar gyfer 2024:
Achlysur
|
Lleoliad
|
Dyddiad
|
Achlysur Ŵy-a-sbri
|
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
|
27 - 28 Mawrth
|
Gŵyl Aberdâr
|
Parc Aberdâr
|
25 Mai
|
Sioe Ceir Clasur
|
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
|
29 Mehefin
|
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
|
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
|
3 - 10 Awst
|
Rhialtwch Calan Gaeaf
|
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
|
29 - 30 Hydref
|
Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd
|
Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd
|
10 Tachwedd
|
Ogof Siôn Corn
|
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
|
23 Tachwedd - 24 Rhagfyr
|
Y Nadolig yng nghanol ein trefi
|
Lleoliadau amrywiol yn Rhondda Cynon Taf
|
29 - 30 Tachwedd, 6 - 7 Rhagfyr
|
Rasys Nos Galan
|
Aberpennar
|
31 Rhagfyr
|
.
Mae'n bosibl y byddwch chi'n sylwi nad yw Gŵyl Cegaid o Fwyd Cymru ar y rhestr eleni. Fydd yr achlysur ddim yn cael ei gynnal eleni wrth i un o wyliau diwylliannol mwyaf Ewrop, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gyrraedd yr ardal. Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhontypridd, gyda'r Maes ym Mharc Coffa Ynysangharad. Cadwch lygad ar y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r Eisteddfod yma. Bydd Cegaid o Fwyd Cymru yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ym mis Awst 2025
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor:
Mae ein calendr achlysuron yn rhywbeth i edrych ymlaen ato bob blwyddyn. Y llynedd, daeth dros 100,000 o breswylwyr ac ymwelwyr â'r Fwrdeistref Sirol draw i fwynhau ystod eang o weithgareddau, o berfformiadau cerddorol yng Ngŵyl Aberdâr i arddangosfeydd ceir clasur yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Eleni, rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu miloedd yn rhagor wrth i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ddod i Bontypridd. Mae ein calendr achlysuron yn rhedeg drwy'r flwyddyn ac yn dod i ben yn Aberpennar ar Nos Galan wrth i redwyr o bob cwr o'r wlad gymryd rhan yn rasys byd-enwog Nos Galan. Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu pawb i'n hachlysuron eleni.
Bydd manylion am yr holl achlysuron ar gael ar @whatsonrct ar Facebook, X ac Instagram ac ar www.rctcbc.gov.uk/achlysuron.
Ydych chi'n edrych am ffyrdd newydd o hyrwyddo eich busnes neu wasanaeth yn 2024? Mae noddi achlysuron yn ffordd wych o rannu eich neges â llawer o bobl a sicrhau bod pobl yn gweld eich brand. Does dim amser gwell i gymryd rhan. E-bostiwch Achlysuron@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 424123 i drafod yr opsiynau sydd ar gael.
Wedi ei bostio ar 02/02/2024