Skip to main content

Newidiadau i drefniadau bysiau gyda'r hwyr yn ardal Gilfach-goch ar gyfer gwaith cyfagos

Temp bus arrangements thumbnail WELSH 2

Dyma roi gwybod i drigolion am drefniadau dros dro ar gyfer teithiau bysiau gyda'r hwyr i ardal Gilfach Goch ac oddi yno, o ganlyniad i waith gosod wyneb newydd sy'n cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd angen cau'r A4093 Glynogwr – o'r mynediad i fferm wynt Pant Y Wal i bwynt sydd ychydig y tu allan i ffin Rhondda Cynon Taf.

Bydd gwaith y cynllun yn cael ei gynnal gyda'r nos, rhwng 7pm a 7am, o ddydd Mercher 28 Chwefror tan ddydd Mawrth 5 Mawrth (dod i ben erbyn 7am ar 6 Mawrth).

Mae llwybr amgen ar gael ar hyd yr A4093 Gilfach-goch, yr A4119, yr A4058, Mynydd y Bwlch, yr A4061, a'r A4093 – neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall.

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi gwybod i'r gwasanaethau brys i ddefnyddio'r llwybr amgen yma.

Bydd y trefniadau cau'n effeithio ar deithiau hwyrach Gwasanaeth 172 Stagecoach (Aberdâr-Pen-y-bont ar Ogwr). Fydd dim modd i deithiau i'r ddau gyfeiriad wasanaethu Gilfach-goch a bydd y llwybr amgen canlynol yn cael ei ddefnyddio.

Bydd teithiau 6.55pm ac 8.15pm o Ben-y-bont ar Ogwr yn cyrraedd Sainsbury's Sarn, wedyn yn teithio ar hyd Cyffordd 34 yr M4, yr A4119 a'r A4093, cyn ailymuno â'r llwybr arferol wrth Fynwent Tonyrefail.

Bydd taith 6.15pm o Aberdâr yn defnyddio'r un llwybr i'r cyfeiriad arall, sef cyrraedd Mynwent Tonyrefail a'r A4093, yr A4119 a'r M4, cyn teithio i Sainsbury's Sarn.

Fydd dim effaith ar unrhyw daith arall yn y bore na'r prynhawn.

Diolch ymlaen llaw i ddefnyddwyr bysiau am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 22/02/24