Caiff busnesau lleol eu hatgoffa am y cyfleoedd grant sydd ar gael iddyn nhw ar hyn o bryd. Yma, rydyn ni'n edrych ar sut mae dau fusnes yn Aberpennar a Phontypridd wedi llwyddo i sicrhau cyllid, ar ôl elwa ar y cymorth a gynigiwyd gan ein carfan Adfywio.
Mae’r Cyngor yn cynnig cyngor a chymorth penodol i fusnesau lleol i’w helpu i gael mynediad at ystod o raglenni buddsoddi ariannol sydd ar gael – gan ddefnyddio cyllid a gafodd ei glustnodi o ffynonellau allanol megis Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a menter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. Dyma grynodeb o ddau gyfle sydd ar gael ar hyn o bryd:
- Grant Mân Welliannau Canol Tref – cefnogi gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach ar flaenau siopau neu adeiladau yng nghanol y dref, sy'n cael effaith gadarnhaol ar y strydlun. Uchafswm y grant yw £2,000 (ynghyd â lwfans ychwanegol o £500 tuag at sgipiau a sgaffaldiau), i dalu am hyd at 75% o gostau cymwys. Mae modd defnyddio'r grant hefyd ar gyfer adeiladau gwag.
- Grant Ehangu Busnes – cefnogi mentrau micro, bach a chanolig i dyfu, ar gyfer y busnesau hynny sy'n dangos cynnig busnes clir ac effeithiol gydag effeithlonrwydd ynni yn ystyriaeth allweddol. Uchafswm y grant yw £15,000 i dalu am hyd at 75% o gostau cymwys. Mae'r grant ar gael i bob busnes newydd a rhai sy'n bodoli eisoes yn Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth am y grantiau yma, gan gynnwys rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i wefan y Cyngor, yma.
Rustico - Stryd y Taf, Canol Tref Pontypridd
Pizzeria traddodiadol gyda bwydlen wedi’i hysbrydoli gan Napoli (Naples) yw Rustico, sydd wedi agor yn ddiweddar ym Mhontypridd. Cysylltodd y cwmni â'r Cyngor i ddechrau yn yr haf, 2023 i drafod unrhyw gymorth ariannol a oedd ar gael iddo wrth iddo symud i fwyty gwag. Byddai’r cwmni’n adnewyddu'r adeilad yn gyfan gwbl y tu mewn a'r tu allan ac yn prynu cyfarpar ac offer newydd ar gyfer y bwyty.
Gan weithio'n agos gyda'r garfan Adfywio, cafodd Rustico fudd o gyfraniad tua 60% o'r Grant Mân Welliannau Canol Tref ar gyfer cost arwyddion newydd a phaentio blaen y siop. Sicrhaodd y bwyty hefyd tua 10% o gostau’r prosiect ar gyfer y gwaith adnewyddu mewnol a phrynu cyfarpar ar gyfer y gegin, o’r Grant Ehangu Busnes. Mae'r cwmni wedi dweud ei fod yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth y Cyngor i sicrhau'r cyllid yma.
The Blackened Teeth – Heol Caerdydd, Aberpennar
Mae The Blackened Teeth yn arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu nwyddau cartref Gothig. Mae casgliadau cynnyrch y cwmni’n cynnwys goleuadau, addurniadau, canhwyllau a gweithiau celf Gothig. Mae’n dosbarthu nwyddau ledled y byd ac mae ganddo stocwyr byd-eang. Ar ôl derbyn grant cychwyn busnes gan y Cyngor yn flaenorol, cysylltodd y cwmni i drafod cyfleoedd ariannu i greu stiwdio ffotograffiaeth newydd, ac i ailgylchu gwastraff cardbord yn ddefnydd pacio ar gyfer y busnes.
Helpodd swyddogion y cwmni i sicrhau Grant Ehangu Busnes gwerth 75% o gostau'r prosiect. Helpodd i brynu camera, offer ffotograffiaeth a goleuadau stiwdio, gan alluogi The Blackened Teeth i wneud ffotograffiaeth broffesiynol yn fewnol a lleihau ei gostau gweithredu. Cyfrannodd y grant hefyd at gost peiriant rhwygo cardbord, sydd wedi galluogi swydd ran-amser i gael ei chadw a chreu rôl amser llawn yn yr adran anfon nwyddau. Mae'r busnes wedi cydweithio ag ysgol gynradd leol ar gyfer prosiectau ailgylchu lle mae'r disgyblion yn dod â chardbord i danio'r peiriant rhwygo cardbord a dysgu sut y mae modd i ni ailgylchu er mwyn lleihau gwastraff.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Ffyniant a Datblygu: “Trwy ei garfan Adfywio bwrpasol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol – i gael effaith gadarnhaol ar ddatblygu’r economi leol, i wella canol ein trefi a’n hardaloedd manwerthu, ac i annog buddsoddiad sector preifat mewn lleoliadau o’r fath.
“Un o’r ffyrdd pwysig o wneud hyn yw gwneud busnesau’n effro i'r grantiau sydd ar gael, a darparu cymorth i fasnachwyr i gael gwybod rhagor, gwneud cais, ac yn y pen draw sicrhau cyllid. Dwy enghraifft yw'r Grant Mân Welliannau Canol Tref a'r Grant Ehangu Busnes, sydd ar agor ar hyn o bryd ac ar gael i'w defnyddio. Byddwn ni'n annog busnesau sydd â diddordeb i gysylltu â’n carfan Adfywio i gael gwybod rhagor.
“Mae hefyd yn wych gweld sut mae ymgeiswyr llwyddiannus wedi gwneud defnydd da o’u cyllid, ac mae astudiaethau achos Rustico a The Blackened Teeth yn dangos sut y mae modd sicrhau’r grantiau at ystod eang o ddefnyddiau. Roedd y rhain yn ddau gais gwahanol iawn, ond dangosodd y ddau y gallen nhw dyfu eu busnes gyda chynigion clir ac effeithiol a oedd yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Hoffwn i ddiolch i'r ddau gwmni am weithio'n agos gyda ni, a dyma ddymuno'n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol."
Wedi ei bostio ar 28/02/24