Skip to main content

Mae Rhondda Cynon Taf yn arwain y byd ym maes AILGYLCHU CEWYNNAU!

Eleni, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu ei 10fed blwyddyn yn ailgylchu cewynnau ac mae wedi’i gadarnhau bod y Cyngor wedi bod yn ailgylchu cewynnau yn hirach nag unrhyw Awdurdod Lleol arall yn y byd!!

Meddai Pura NappiCycle, sydd wedi bod ar flaen y gad ym maes ailgylchu cewynnau ers 2014, bod trigolion Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ailgylchu eu cewynnau a'u padiau anymataliaeth yn hirach nag unrhyw Fwrdeistref Sirol arall yn y byd. Gyda thua 82 miliwn o gewynnau'n wedi'u hailgylchu dros y 10 mlynedd diwethaf – mae hynny'n golygu bod 8.2 miliwn yn cael eu hailgylchu bob blwyddyn, yn lle eu bod nhw’n pydru mewn safleoedd tirlenwi.

NappiCycle yw'r safle ailgylchu Cynnyrch Hylendid Amsugnol mwyaf hirsefydlog, a'r unig un sy'n weithgar, yn y byd, ac mae modd iddo gadarnhau bod y Cyngor wedi bod yn ailgylchu gydag e o'r cychwyn cyntaf. Gyda'i gilydd, mae'r Cyngor a NappiCycle wedi llwyddo i ailgylchu’r hyn a oedd unwaith yn broblem gwaredu gwastraff solet.

Ffeithiau am gewynnau ar gyfer Rhondda Cynon Taf: Caiff 683,300 o gewynnau eu casglu bob mis, 170,000 bob wythnos. Dyna 17 cewyn/gwastraff cynnyrch hylendid amsugnol yr wythnos ar gyfer pob cartref – yn seiliedig ar oddeutu 10,000 o gartrefi sydd wedi'u cofrestru.

Mae modd i chi fwrw golwg ar sut yn union y mae eitemau'n cael eu hailgylchu a'u troi'n belenni plastig i'w troi'n fyrddau panel a llawer yn rhagor yn y fideo yma:

Amcangyfrifir bod tua 40,000 tunnell o Gynhyrchion Hylendid Amsugno (AHP), sy'n cynnwys cewynnau tafladwy a chynhyrchion anymataliaeth yn y llif gwastraff yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i 200 miliwn o gewynnau'r flwyddyn yng Nghymru, sef dros hanner miliwn y dydd.

Mae cewynnau untro wedi'u gwneud o blastig, elastig, glud, darnau papur a chemegau sydd ddim yn diraddio'n rhwydd, ac mae'n bosibl iddyn nhw ollwng tocsinau i mewn i'r ddaear. A dweud y gwir, mae'n debyg y gallai gymryd cannoedd o flynyddoedd (neu fwy na 500 o flynyddoedd, yn ôl rhai) cyn i gewynnau untro ddechrau pydru.

Ar ben hynny, mae'r baw sydd ynddyn nhw yn golygu bod methan – sef un o'r nwyon tŷ gwydr sydd tua dwywaith mor wael â charbon deuocsid – yn cael ei ryddhau wrth iddyn nhw bydru, gan gyfrannu at gynhesu byd eang. A dweud y gwir, mae nifer y cewynnau untro sy'n cael eu defnyddio gan bob plentyn, cyfwerth â hyd at 630kg o fethan, sy'n gyfwerth â'r hyn mae car yn ei gynhyrchu dros 1,800 o filltiroedd.

Cyfrifwyd pe bai’r 3 biliwn o gewynnau a ddefnyddir bob blwyddyn yn y DU yn cael eu hailgylchu, byddai’r un peth â thynnu 72,000 o geir oddi ar ein ffyrdd bob blwyddyn. Waw!

Yn ffodus i drigolion Rhondda Cynon Taf, mae'r gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd RHAD AC AM DDIM wedi bod ar gael ers dros 10 mlynedd a chaiff ei ystyried yn un o'r gwasanaethau gorau ar draws diwydiant gwastraff y DU. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun bagiau porffor yn caniatáu i drigolion ailgylchu cewynnau untro a phadiau anymataliaeth o ymyl y ffordd bob wythnos. Y cyfan sydd angen i drigolion ei wneud yw cofrestru ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/ailgylchucewynnau. Unwaith y bydd eu cofrestriad wedi'i gadarnhau, bydd trigolion yn derbyn rholyn o fagiau porffor ac yn cael gwybod pryd fydd eu diwrnod casglu (efallai na fydd y diwrnod casglu yma'r un diwrnod â'ch diwrnod casglu ailgylchu a gwastraff arall), yna byddan nhw'n rhoi’r bag porffor wrth ymyl y ffordd cyn 7am ar y diwrnod hwnnw.

Er mwyn gwella'r gwasanaeth a gaiff ei gynnig ledled y Fwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor wedi bod yn edrych ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y rowndiau casglu. Mae'r adolygiad yma bellach wedi'i gwblhau a bydd cwsmeriaid cofrestredig yn profi gwasanaeth gwell o'r wythnos sy'n dechrau dydd Llun, 19 Chwefror. Dylai pob preswylydd cofrestredig fod wedi derbyn llythyr personol yn cadarnhau neu ddiweddaru eu diwrnod casglu. Caiff trigolion eu cynghori i wirio hyn cyn 19 Chwefror. Bydd modd i drigolion cofrestredig hefyd wirio eu diwrnodau casglu ar-lein yn www.rctcbc.gov.uk/diwrnodcasglu

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae'r gwasanaeth ailgylchu cewynnau a gwastraff anymataliaeth wedi bod yn boblogaidd iawn ledled y Fwrdeistref Sirol. Nodwyd ein bod ni'n arloeswr pan wnaethon ni gyflwyno’r gwasanaeth DDEG mlynedd yn ôl. Rydyn ni’n amcangyfrif ein bod ni wedi llwyddo i ailgylchu tua 82 miliwn o gewynnau yn Rhondda Cynon Taf dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae'r cynllun arloesol yn gweld y cynnyrch gwastraff yn cael ei gasglu a'i ail-gynhyrchu yng Nghymru gan NappiCycle i greu byrddau panel ar gyfer adeiladu.

"Mae'r garfan bellach wedi edrych ar y data presennol ac wedi sicrhau bod cwsmeriaid cofrestredig angen y gwasanaeth o hyd, ac wedi defnyddio'r wybodaeth yma ar y cyd â'r dechnoleg ddiweddaraf yn y cerbyd i wella llwybrau casglu a chaniatáu ar gyfer gwasanaeth wedi’i awtomeiddio."

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ailgylchu cewynnau a gwastraff anymataliaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchucewynnau

I wirio eich diwrnod casglu ailgylchu a gwastraff, ewch i www.rctcbc.gov.uk/diwrnodcasglu

Wedi ei bostio ar 19/02/24