Mae gwobrau rif y gwlith yn cyrraedd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda! Wythnosau'n unig wedi i’r sefydliad Confederation of Passenger Transport ddatgan ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau'r Wobr Coach Friendly Award, yr unig leoliad yng Nghymru sydd wedi llwyddo i wneud hynny, rydyn ni nawr yn hynod falch (eto) o ddatgan ein bod ni wedi ennill Gwobr The Traveller's Choice 2024, gan Tripadvisor.
Rhoddir Gwobr The Traveller's Choice i gydnabod busnesau sy'n cael adolygiadau gwych yn gyson. Mae'r lleoliadau sy'n ennill gwobrau ymhlith y 10% man ar frig y rhestr ar Tripadvisor sy'n dangos ymrwymiad i ragoriaeth o ran lletygarwch.
Mae'r wobr felly'n un arbennig iawn gan mai ar sail yr adolygiadau y mae ymwelwyr wedi'u hysgrifennu ar Tripadvisor y mae hi'n cael ei dyfarnu. Mae'r ymwelwyr hyn wedi dod o bob cwr o'r byd i fwynhau ein profiad tanddaearol unigryw a'n harddangosfeydd a'n hachlysuron.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:
Mae gydag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda rôl arbennig o bwysig o ran adrodd hanes Cymoedd y Rhondda. Mae'r wobr ddiweddaraf hon yn brawf nid yn unig o ymrwymiad y staff, ond mae'n pwysleisio'r ffaith fod hon yn amgueddfa unigryw a bod ymwelwyr wrth eu bodd yn ymweld â hi.
Mae rhesymau diri dros ymweld, boed hynny i ddod i achlysur, gweld arddangosfa newydd neu fynd ar y daith danddaearol eto. Mae rhywbeth ar gyfer pawb o bob oed. Mae'n ymwelwyr ieuengaf er enghraifft wrth eu bodd yn teithio ar Dram – y dram glo rhithwir sy'n mynd ar wib sef profiad efelychu sy'n ffordd arbennig o ddod â'r daith danddaearol i ben.
Llongyfarchiadau i bob aelod o'r staff yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda!
Os nad ydych chi wedi ymweld ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda eto, neu os ydych chi heb ymweld ers tro, dyma rai rhesymau dros ymuno â ni i fwynhau diwrnod allan unigryw:
Y Profiad Aur Du Tanddaearol sef y Daith Dywys Danddaearol
Cyfle i fynd dan ddaear gyda'n tywyswyr teithiau sy'n gyn-lowyr, ac fe gewch chi'u clywed nhw'n rhannu straeon ac atgofion am fywyd y pyllau glo, o gyfnod pan roedd glo o Rhondda Cynon Taf yn cael ei ddefnyddio'n ynni ledled y byd! Rydyn ni'n rhoi ein gair na fydd yr un ddwy daith fyth yr un fath gan fod ein tywyswyr yn llawn straeon, ffeithiau (a jôc neu ddwy!)
Gweithgareddau rhyngweithiol am ddim
Mae'n harddangosfa ryngweithiol newydd sbon ar y llawr gwaelod ac mae ynddi fwy na 140 arteffact â sgriniau cyffwrdd digidol a fideos o'r archif. Mae'r ystod o bynciau sydd ar gael yn dechrau o 1809 hyd at gau Glofa'r Tŵr, y pwll glo dwfn olaf yn Ne Cymru yn 2008; dyma'r arddangosfa ryngweithiol fwyaf cynhwysfawr a diddorol yn ne Cymru.
Mae hyd yn oed rhagor i'w weld yn ein Galeri lan lofft, ein Cowrt ac arddangosfa'r Gymdeithas Lo hefyd!
Achlysuron
Rydyn ni'n cynnal nifer o achlysuron yma yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda! Ein hachlysuron blynyddol mawr nesaf yw'r Rhialtwch Calan Gaeaf ac wrth gwrs yr hynod boblogaidd Ogof Teganau Siôn Corn! Bydd manylion ynghylch dyddiadau rhyddhau tocynnau ar gyfer y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Tripiau ysgol
Mae gyda ni gynigion gwych ar gyfer ysgolion ac rydyn ni'n croesawu ysgolion yn ystod y tymor drwy gydol y flwyddyn. Yn rhan o'r tripiau ysgol yma mae'r daith danddaearol, gweithgareddau ynghlwm â'r cwricwlwm a rhagor, ac mae modd eu trefnu drwy ffonio 01443 682036.
Teithiau ar gyfer Grwpiau
Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu grwpiau! Mae'n fraint cael croesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd, felly hefyd grwpiau lleol fel Sefydliadau'r Menywod, grwpiau hanes a'r rhai sy'n ymweld â de Cymru am y diwrnod. Mae gyda ni becynnau gwych ar gael gydag Atyniad y Royal Mint Experience a Distyllfa Castell Hensol. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yma
Gweithdai a Chaffi Gwneud Siocled
Mae ein gwneuthurwyr siocled ar y safle, The Chocolate House yn gweini prydau blasus, te prynhawn a byrbrydau yn ein café ac maen nhw hefyd yn cynnal gweithdai gwneud siocledi. Rhagor o wybodaeth ar gael yma
Craft of Hearts
Mae ein crefftwyr ar lawr cyntaf y safle ac maen nhw'n cynnal dosbarthiadau yn ogystal â gwerthu deunyddiau crefft. Cewch ragor o wybodaeth amdanyn nhw ar facebook.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar agor 9am tan 4.30pm ddydd Mawrth – ddydd Sadwrn.
I gael rhagor o wybodaeth am arddangosfeydd, teithiau tanddaearol ac achlysuron yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda.com a dilynwch @rhonddaheritagepark ar y cyfryngau cymdeithasol.
Wedi ei bostio ar 10/07/24