Beth am fynd ati i harddu eich ardal i ddangos bod eich pentref neu dref yn rhoi croeso mawr i bawb?
Efallai wythnos yr Eisteddfod fydd y tro cyntaf i bobl ymweld â'ch ardal, cyfle da i roi argraff dda i ddenu pobl nol yn y dyfodol.
Rydyn ni wedi paratoi 'Pecyn Harddu' llawn syniadau o sut i fynd ati i ddechrau ar y gwaith.
Rydyn ni'n chwilio am griw gweithgar i ymuno â'n Grŵp Harddu i helpu sicrhau bod pob ardal wedi ei addurno i groesawu’r ŵyl.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio ein ffurflen ar-lein i gofrestru manylion eich addurniadau, neu syniadau, er mwyn i ni wirio bod modd eu gosod yn ddiogel.
Wedi ei bostio ar 20/06/24