Bydd y cynllun parcio am ddim yn dychwelyd i Aberdâr a Phontypridd unwaith eto yn ystod mis Rhagfyr eleni. Bydd modd i bawb sy’n ymweld â chanol y ddwy dref barcio AM DDIM o 10am bob dydd, wrth i ni geisio annog trigolion i siopa'n lleol dros y Nadolig – ac atgoffa pawb bod y rhan fwyaf o fusnesau ar agor yn ôl yr arfer yn dilyn y difrod gan y storm diweddar.
Bydd y cynllun poblogaidd yma sy’n cael ei gynnig gan y Cyngor yn cael ei weithredu am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol yn 2024, a bydd yn para trwy gydol mis Rhagfyr. O ganlyniad i hyn, fydd dim angen i chi dalu i barcio ym meysydd parcio’r Cyngor ar ôl 10am bob dydd - o ddydd Sul 1 Rhagfyr i ddydd Mawrth 31 Rhagfyr, gan gynnwys y diwrnodau yma.
Bwriad y cynnig yw annog trigolion i wneud cymaint o'u siopa Nadolig â phosibl yn yr ardal leol, yn ogystal â chynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar ein hachlysuron Nadoligaidd sy'n cael eu cynnal yng nghanol ein trefi. Bydd y cynllun yn rhoi hwb i fasnachwyr lleol yn ystod yr amser prysur yma o'r flwyddyn – a bydd hefyd yn cefnogi’r gymuned fusnes a gafodd ei heffeithio gan Storm Bert ar 24 Tachwedd, lle bu llifogydd mewnol mewn rhai busnesau.
Yn Aberdâr, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Adeiladau'r Goron, y Stryd Las, y Llyfrgell, Stryd y Dug, Stryd Fawr, Rhes y Nant, Rock Grounds a'r Ynys. Ym Mhontypridd, bydd modd parcio AM DDIM ym meysydd parcio Heol y Weithfa Nwy, yr Iard Nwyddau (dim ond yn y rhan sy'n eiddo i'r Cyngor), Dôl-y-felin, Heol Berw, Heol Sardis a Stryd y Santes Catrin.
Nodwch: Mae meysydd parcio'r Llyfrgell, Y Stryd Las, Stryd y Dug a'r Stryd Fawr yn Aberdâr, a maes parcio Heol y Weithfa Nwy ym Mhontypridd, yn rhai cyfnod byr - sy'n eich galluogi i barcio am uchafswm o bedair awr.
Dyma atgoffa'r rheiny sy'n parcio cyn 10am bod angen iddyn nhw arddangos tocyn tan 10am yn unig yn ystod cyfnod y cynllun yma. Mae'r peiriannau tocyn parcio wedi'u diweddaru'n ddiweddar a hynny er mwyn i chi fanteisio ar daliadau â cherdyn digyswllt, yn ogystal â’r cyfle i dalu ag arian parod.
Yn ogystal â'r cynllun parcio am ddim, mae'r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno uchafswm pris o £1 ar gyfer yr holl deithiau bws sy'n dechrau ac yn gorffen yn Rhondda Cynon Taf – bydd hyn yn helpu trigolion i gyrraedd canol ein trefi. Bydd yr holl weithredwyr bysiau yn cefnogi'r cynllun teithiau bws â chymhorthdal, a bydd yn cynnwys pob taith, o daith gyntaf y dydd i daith olaf y dydd, bob dydd ym mis Rhagfyr 2024. Manylion yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Bydd y Cyngor yn hepgor costau parcio yn Aberdâr a Phontypridd - o 10am bob dydd ym mis Rhagfyr, a hynny am yr unfed flwyddyn ar ddeg yn olynol. Mae'r cynllun poblogaidd yma wedi cael ei gynnal ers dros ddegawd, gan helpu trigolion i fanteisio ar bopeth sydd yn cael ei gynnig yng nghanol ein trefi adeg y Nadolig – o siopau sy'n darparu ystod eang o nwyddau a gwasanaethau, mannau bwyd a diod ac achlysuron Nadoligaidd.
"Mae ein busnesau wrth galon ein hardaloedd masnach, ac rydyn ni'n parhau i annog pobl i siopa'n lleol lle bo'n bosibl. Mae hon yn neges arbennig o bwysig yn dilyn y difrod a gafodd ei achosi gan Storm Bert ar 24 Tachwedd, lle bu llifogydd mewnol mewn rhai busnesau. Rydyn ni'n annog teuluoedd i wneud cymaint o'i siopa Nadolig ag sy'n bosibl yn yr ardal leol, gan gefnogi ein masnachwyr lleol.
"Bydd y cynllun parcio am ddim yn cael ei gynnal ar y cyd â'r cynllun teithiau bws am bris rhatach, gan bennu uchafswm cost o £1 ar gyfer teithiau o fewn Rhondda Cynon Taf. Dyma'r ail fis Rhagfyr yn olynol lle mae'r ddau gynllun yn cael eu cyflwyno gyda’i gilydd. Nod y ddau gynllun yw rhoi ychydig o gymorth ychwanegol i deuluoedd yn ystod adeg ddrud o'r flwyddyn, a hynny yn ystod cyfnod lle mae costau byw yn parhau i fod yn uchel."
Wedi ei bostio ar 29/11/2024