Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn newid amserlen ei Gasgliadau Gwastraff Gwyrdd adeg y Gaeaf i wasanaeth cadw lle ymlaen llaw am ddim yn ystod cyfnod llai prysur y gaeaf (mis Tachwedd - mis Mawrth).
O ddydd Llun, 18 Tachwedd 2024, y cyfan y bydd angen i breswylwyr cofrestredig ei wneud yw clicio neu ffonio i drefnu casgliad gwastraff gwyrdd, a byddwn ni'n ei gasglu o ymyl y ffordd.
Yn ystod y gaeaf mae'r Cyngor yn casglu gwastraff gwyrdd gan 12% o aelwydydd sydd wedi'u cofrestru yn unig. Bydd y system trefnu casgliad 'ar-lein neu dros y ffôn' yn sicrhau bod carfanau casglu dim ond yn mynd i aelwydydd sydd wedi trefnu casgliad, gan leihau nifer y teithiau diangen, costau tanwydd ac allyriadau carbon. Bydd hefyd yn sicrhau bod gwasanaeth casglu gwastraff ailgylchu gwyrdd ar gael (os oes angen) ar gyfer POB eitem y gellir ei hailgylchu o ymyl y ffordd drwy gydol y flwyddyn.
Yr unig beth mae rhaid i chi ei wneud yw parhau i roi eich gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu yn y sachau amlddefnydd GWYRDD a mynd ar-lein neu ffonio pan rydych chi angen trefnu casgliad.
Os dydych chi ddim wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, ond hoffech chi ddechrau cael casgliadau, mae hi'n gyflym ac yn hawdd cofrestru. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGwyrdd neu ffonio 01443 425001. Bydd trigolion wedyn yn cael eu DWY sach AM DDIM er mwyn dechrau ailgylchu'u gwastraff gwyrdd.
Bydd bagiau ychwanegol/newydd ar gael am £3 yr un.
Bydd modd defnyddio'r sachau gwastraff gardd ar gyfer glaswellt, tocion, brigau bach wedi'u torri i faint addas yn ogystal â gwastraff anifeiliaid bach sy'n bwyta llysiau yn unig. FYDD y Cyngor DDIM yn casglu pridd, rwbel, tywarch (blociau mwd) neu bren yn rhan o'r casgliad yma. Dylai gwastraff anifeiliaid gynnwys blawd llif / gwair yn unig ac nid gwastraff anifeiliaid arall fel baw cŵn a gwasarn cathod. RHAID PEIDIO â gorlenwi'r sachau.
Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn gwastraff gwyrdd i'w ailgylchu, ni waeth pa mor fach neu fawr ydyw, ond RHAID iddo BEIDIO â bod mewn bag ailgylchu clir. Rhaid ei ollwng yn rhydd i'r cynhwysydd sydd ar gael. Bydd Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn gweithredu yn unol ag oriau agor y gaeaf (8.30am-4.30pm) o ddydd Llun 28 Hydref.
Nodwch: Fydd gwasanaeth casglu Gwastraff Gwyrdd yn ystod y Gaeaf ddim ar gael rhwng dydd Llun 30 Rhagfyr a dydd Llun 13 Ionawr 2025.
Bydd modd trefnu casgliadau coed Nadolig go iawn o fis Rhagfyr. Ewch i www.rctcbc.gov.uk/CoedNadolig er mwyn trefnu casgliad. Mae gwasanaeth yma'n wahanol i'r gwasanaeth ailgylchu gwastraff gwyrdd yn ystod y gaeaf a bydd ar gael o ddechrau mis Rhagfyr.
Bydd casgliadau yn dychwelyd i rai fesul wythnos yn ystod misoedd y gwanwyn / haf o ddydd Llun, 17 Mawrth 2025 gyda phreswylwyr cofrestredig yn derbyn casgliadau bob wythnos yn awtomatig, (does dim angen cadw lle ar gyfer casgliadau yn ystod y gwanwyn / haf).
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.rctcbc.gov.uk/GwastraffGarddio, e-bostio ailgylchu@rctcbc.gov.uk, ffonio 01443 425001 neu ddilyn cyfrif Facebook/Twitter y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 24/10/2024