Skip to main content

Creu 'm-WY' o BŴER drwy Ailgylchu Gwastraff Bwyd!

Cofiwch ailgylchu eich WYAU dros y Pasg - hyd yn oed y rhai sydd ddim wedi'u gwneud o siocled!

Mae mwy na 12.8 BILIWN o wyau'n cael eu bwyta yn y DU bob blwyddyn – sy'n golygu bod modd ailgylchu hyd at 12.8 BILIWN o blisg wyau mewn cadis gwastraff bwyd ledled Prydain Fawr!

Mae hynny'n gyfle gwych i greu 'm-WY' o bŵer allan o'n gwastraff bwyd. 

Cyn i wyau siocled ddod yn ffordd boblogaidd o nodi'r Pasg, byddai nifer o bobl yn mwynhau wy wedi'i ferwi ar ddiwedd cyfnod y Grawys er mwyn dathlu bywyd newydd ar ddechrau'r gwanwyn.

Mae tua 37 miliwn o wyau'n cael eu bwyta bob dydd ar gyfartaledd. Does dim modd i ni fwyta'r plisg, wrth gwrs, ac mae hyn yn creu tua 222 tunnell o wastraff bwyd! Pe byddai pawb yn rhoi plisg yr wyau yma mewn cadis bwyd fel bod modd troi'r gwastraff yn ynni yn ein canolfan ailgylchu bwyd ym Mryn Pica, byddai hynny'n creu digon o ynni i bweru mwy nag ugain o gartrefi bob dydd!

Mae'n drist clywed bod tua 720 miliwn o wyau, gan gynnwys melyn wy a gwyn wy, yn cael eu gwastraffu yn y DU bob blwyddyn! Os oes gormod o wyau gyda chi, a bod dim modd eu bwyta cyn iddyn nhw fynd yn rhy hen - cofiwch fod modd eu rhewi am hyd at 3 mis! Rhagor yma: https://www.lovefoodhatewaste.com/cy/bwydydd-a-rysetiau/wyau

Rydyn ni'n amcangyfrif bod 25% o'r bag sbwriel neu fin sbwriel cyffredin yng Nghymru yn cynnwys bwyd, a bwyd mae modd ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono. Yn 2022, fe wnaeth gwaith dadansoddi bagiau du yn Rhondda Cynon Taf gan WRAP ddod i'r casgliad bod 39% o’r holl wastraff bagiau du yn cynnwys gwastraff bwyd – mae’r camau rydyn ni wedi’u cymryd dros y tair blynedd diwethaf wedi helpu i leihau'r ganran yma'n sylweddol!

Ers safoni casgliadau gwastraff ym mis Medi 2024, bu cynnydd o 17% mewn gwastraff bwyd a gostyngiad o 36% yn y gwastraff bagiau du a gasglwyd! Rydyn ni hefyd yn ailgylchu dros 70% o’n gwastraff yn gyson ac ar y trywydd iawn i fwrw targed Llywodraeth Cymru o ailgylchu 70%.

Serch hynny, mae modd i ni wneud rhagor fyth. Ystyriwch sut mae modd i chi ailddefnyddio unrhyw fwyd sy'n weddill wrth fwynhau'ch cinio rhost a'ch wyau siocled, neu rhowch y gweddillion yn y cadi bwyd os does dim modd gwneud hynny. Bydd hyn yn troi eich gwastraff yn BŴER!

Ffeithiau Gwastraff Bwyd y Pasg (Y DU):

  • 8 miliwn o deisennau'r Groglith wedi'u gwastraffu
  • 5 miliwn o dafelli o gig rhost dros ben
  • 19 miliwn o datws yn weddill 
  • 20 miliwn o ddognau o lysiau heb eu bwyta.

Os dydych chi ddim wedi cofrestru eto, mae modd i chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma www.rctcbc.gov.uk/gwastraffbwyd.

Bydd mwy na 80 miliwn o wyau Pasg yn cael eu bwyta a'u gwerthu dros y Pasg, gan arwain at tua 9,000 tunnell o wastraff pecynnu.

Allwch chi leihau eich deunydd pecynnu? Mae bron i ddwy ran o dair o drigolion y DU o'r farn bod wyau Pasg wedi'u gorbacio. Byddai gwneud gwaith ymchwil ar-lein cyn i chi fynd i'r siopau yn eich helpu chi i weld pa wyau sydd â llai o ddeunydd pecynnu.

Sut rydych chi'n mynd ati? Unwaith i chi fwyta'ch holl wyau Pasg, pwyllwch cyn taflu'r deunyddiau plastig, ffoil a chardfwrdd. Mae modd manteisio ar wasanaethau ailgychu'r Cyngor yn rhwydd, ac maen nhw'n RHAD AC AM DDIM. Rydyn ni'n casglu bagiau ailgylchu CLIR, gwastraff bwyd, gwastraff gwyrdd y gwanwyn a hen gewynnau o ymyl y ffordd bob wythnos. Bydd llawer o ysgolion lleol yn Rhondda Cynon Taf hefyd yn ymuno yn Her Ailgylchu'r Pasg, lle byddan nhw'n cystadlu i weld pa ysgol sy'n gallu ailgylchu'r nifer fwyaf o becynnau wyau Pasg ac ennill gwobrau gwerthfawr. Holwch y staff yn ysgol eich plentyn i weld a ydyn nhw wedi cofrestru i ymgymryd â'r her cyn anfon eich eitemau i mewn.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

“Dim ots p-WY ydych chi, mae ailgylchu yn RhCT yn hawdd ac yn hygyrch i bawb. Mae gyda ni drefn syml lle mae modd rhoi'ch holl wastraff ailgylchu sych mewn un bag, gyda chadi ar wahân ar gyfer gwastraff bwyd.

"Hoffwn i ddiolch i drigolion am ymuno â ni yn ein brwydr yn erbyn Newid yn yr Hinsawdd. Mae mwy a mwy o drigolion yn manteisio ar ein gwasanaeth casglu gwastraff wythnosol o ymyl y ffordd. Mae pob un o'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor i'r cyhoedd ac mae amserlen oriau estynedig yr haf bellach ar waith.

“Rwy’n annog ein holl drigolion sydd ddim yn ailgylchu ar hyn o bryd i ddod at ei gilydd i WELLA ein hymdrechion ailgylchu – bydd y newidiadau rydyn ni i gyd yn eu gwneud i’n harferion nawr yn sicrhau ein bod ni’n osgoi dirwyon sylweddol ac yn diogelu byd mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol – fedrwn ni ddim fforddio peidio â gwneud hyn!

Sicrhewch eich bod chi'n rhoi gwastraff bwyd yn y bagiau gwyrdd cywir a'ch bod chi'n cofrestru ar gyfer ailgylchu cewynnau a gwastraff gwyrdd, os yn berthnasol. Rhowch y cewynnau yn y bagiau porffor a'r gwastraff gwyrdd yn y sachau gwyrdd.  Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR.

Fydd DIM NEWID i gasgliadau ailgylchu wrth ymyl y ffordd a chasgliadau gwastraff dros wyliau'r Pasg. Cofiwch roi'r biniau/bagiau wrth eich man casglu arferol ar eich diwrnod casglu arferol. Cofiwch barcio mewn ffordd synhwyrol, fel bod modd i'r cerbydau ailgylchu gael mynediad i'ch stryd yn ystod yr amser prysur yma.

Cofiwch fod Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor ar agor dros ŵyl y banc, yn barod i dderbyn eich holl sbwriel ychwanegol yn ystod y Pasg – galwch heibio rhwng 8.30am a 6.30pm (oriau agor yr haf). Yn ystod cyfnodau prysur, mae'n bosibl bydd rhaid aros wrth i sgipiau gael eu newid ac ati. Mae modd i chi fwrw golwg ar holl fanylion y Canolfannau yma:  www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Bydd yr holl gyfleusterau yma'n darparu ar gyfer pob un o'r holl anghenion ailgylchu. Mae rhestr lawn o'r eitemau a gaiff eu derbyn i'w chael ar www.rctcbc.gov.uk/CanolfannauAilgylchu

Mae staff pob canolfan yn barod i roi cyngor i drigolion.

Ydych chi'n ansicr am ba nwyddau mae modd eu hailgylchu? Defnyddiwch y cyfleuster chwilio ar-lein – www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAmAilgylchu

Beth am weld faint rydych chi'n ei wybod am ailgylchu? Rhowch gynnig ar ein gêm ailgylchu ddifyr yma: www.rctcbc.gov.uk/GemAilgylchu.

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu? Croeso i chi fynd i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu.

Wedi ei bostio ar 14/04/2025