Mae gwaith bellach wedi'i gwblhau i wella'r cwlfer ger Stryd y Nant, Blaenrhondda, i leihau perygl llifogydd lleol.
Dechreuodd y gwaith a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2024 ac mae wedi'i gwblhau ar amser, cyn diwedd mis Mawrth 2025.
Mae'r cynllun wedi gwella'r cwrs dŵr yn y lôn y tu ôl i Stryd y Nant, gan gynnwys lledu'r sianel, gwneud cilfach y cwlfer yn fwy dwfn a gwella'r gilfach.
Mae'r lluniau'n dangos y gwelliannau sydd wedi cael eu gwneud, gyda'r lluniau cyn y gwaith (ar y dde) ac ar ôl y gwaith (ar y chwith) yn dangos ehangder y gwaith.
Trwy gynyddu capasiti'r strwythur, bwriad y cynllun yw lleihau nifer yr achosion o orlifo yn ystod cyfnodau o law trwm – fel y gwelwyd yn ddiweddar yn ystod Storm Bert.
Mae hefyd yn ceisio lleihau perygl malurion yn creu rhwystr ac felly'n gwella llif y dŵr.
Cafodd dyluniad y cynllun yma yn 2023/24, a'r cam adeiladu dilynol yn 2024/25, eu hariannu trwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd – Gwaith Graddfa Fach.
Trwy'r rhaglen yma, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu 85% o gostau'r cynllun, gydag arian cyfatebol gan y Cyngor – sy'n cynrychioli cyfanswm buddsoddi gwerth £200,000.
Mae contractwr y Cyngor, Hammond ESC Ltd, bellach wedi gadael y safle ar ôl cwblhau'r gwaith.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 02/04/2025