Byddwch yn barod am gynnig GWYCH gan Hamdden am Oes y Nadolig yma!
Mae ein tocyn pythefnos, heb unrhyw rwymedigaeth, yn ôl!
Mae un tocyn yn cynnig pythefnos o fynediad diderfyn i gampfeydd, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, sesiynau chwaraeon dan do ac ystafelloedd iechyd am £25.50 yn unig.
Mae modd prynu tocyn heb ymrwymo i aelodaeth ac mae modd prynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch, yn olynol, trwy gydol cyfnod y cynnig (rhwng 11 Rhagfyr a 28 Rhagfyr, 2025).
Yn debyg i bob opsiwn Aelodaeth Hamdden am Oes a'u prisiau, mae yna ostyngiadau i'r rheiny sydd dan 18 oed neu dros 60 oed, myfyrwyr llawn amser, cynhalwyr cofrestredig a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys.
Mae modd i chi gael tocyn i chi'ch hun, eich ffrindiau, eich teulu neu hyd yn oed fel anrheg Nadolig i rywun.
Os oes gyda chi bobl yn aros gyda chi dros gyfnod y Nadolig – neu fyfyriwr sy'n dod adref o'r brifysgol/coleg – beth am brynu tocyn iddyn nhw fel bod modd iddyn nhw barhau â'u harferion?
Mae modd i chi gael mynediad at y gampfa, pyllau nofio, dosbarthiadau ffitrwydd, ystafelloedd iechyd a sesiynau chwaraeon dan do ledled y 12 canolfan Hamdden am Oes sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r tocyn yn berffaith ar gyfer:
- Rhoi cyfleoedd i bobl ifainc gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol yn ystod gwyliau'r Nadolig. Mae nofio, chwaraeon dan do megis badminton, sboncen a thennis bwrdd, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd priodol yn ôl oedran, i gyd yn bosibl gyda'r tocyn.
- Pobl ifainc 11 oed ac yn hŷn sydd â diddordeb mewn dechrau defnyddio'n campfeydd, sydd yn llawn o'r offer diweddaraf, gan gynnwys Technogym a thechnoleg ddigidol. Mae staff cymwysedig wrth law i gynorthwyo gyda sesiynau ymgyfarwyddo â'r gampfa ac i’ch helpu i ddefnyddio’r peiriannau’n gywir ac argymell arferion. Hefyd, mae modd i chi fwynhau sesiwn nofio ar ôl cadw’n heini yn y gampfa!
- Myfyrwyr coleg neu brifysgol sydd wedi dychwelyd adref i Rondda Cynon Taf ar gyfer gwyliau'r Nadolig, sydd eisiau ffordd heb rwymedigaeth o ddefnyddio cyfleusterau hamdden a ffitrwydd a pharhau â’u harferion.
- Trigolion o bob oedran sydd wedi bod yn ystyried dychwelyd i hamdden ac eisiau gwneud hynny heb rwymedigaeth. Yn syml, prynwch docyn pythefnos a'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw ddosbarthiadau/sesiynau campfa/sesiynau nofio/chwaraeon dan do yr hoffech, mewn unrhyw ganolfan. Os ydych chi'n mwynhau, prynwch docyn arall neu ystyriwch aelodaeth!
- Anrhegion – ddim yn gwybod beth i'w gael fel anrheg Siôn Corn Cudd neu'n adnabod rhywun fyddai wrth ei fodd ag aelodaeth Hamdden am Oes? Rhowch docyn Hamdden am Oes iddyn nhw y Nadolig yma!
Mae modd prynu tocynnau Cracer Nadolig rhwng 11 a 28 Rhagfyr. Bydd pob tocyn yn ddilys am bythefnos ac mae modd i chi brynu cynifer ohonyn nhw ag y dymunwch trwy gydol cyfnod y cynnig.
Mae modd i chi brynu'ch tocyn o'r dderbynfa yn eich Canolfan Hamdden am Oes leol neu mewn canolfan o’ch dewis.
Pris tocynnau ar gyfer y rheiny sy'n 18 ac iau, dros 60 oed, a'r rheiny sy'n derbyn budd-daliadau cymwys, yw £16.
Pris tocynnau ar gyfer y rheiny sy’n hŷn na 18 oed nad ydyn nhw’n gymwys i hawlio gostyngiad yw £25.50.
Wedi ei bostio ar 05/12/2025