Y DIWEDDARAF, 25/02/25 – sylwch, erbyn hyn mae disgwyl i'r cynllun bara tri diwrnod, hyd at ac yn cynnwys dydd Gwener, 28 Chwefror. Mae'r testun isod wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r newid yma. Diolch
Bydd y Cyngor yn cynnal gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd ar Heol Caerdydd, Trefforest (ger Pont Castle Inn). Bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn ystod hanner tymor er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.
Mae angen cau'r ffordd rhwng 9am a 3pm ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener (26, 27 a 28 Chwefror), er mwyn cwblhau'r gwelliannau ar y ffordd.
Mae'r gwaith yma'n dilyn y gwaith a gwblhawyd ar Bont Droed Castle Inn a gwaith diweddar Dŵr Cymru yn y lleoliad yma. Mae'r gwaith Dŵr Cymru sy'n weddill wedi'i drefnu ar gyfer mis Mawrth, a bydd y gwaith yma ond yn cael ei gynnal ar y llwybrau troed.
Yn ystod oriau gwaith, bydd rhan o Heol Caerdydd i'r de o Gyfnewidfa Glyn-taf (pellter o tua 300 metr) yn cau. Mae manylion yr ardal fydd yn cau i'w gweld ar y map.
Mae'r llwybr amgen yn mynd ar hyd Heol Caerdydd, Cyfnewidfa Glan-bad, Heol Gwaelod-y-garth, Heol Tonteg, Yr Heol Fawr, Heol Llanilltud, Stryd yr Afon, Stryd Fothergill, a Broadway.
Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac i bob eiddo lleol. Dylai beicwyr ddod oddi ar eu beic a defnyddio'r llwybr i gerddwyr.
Sylwch, bydd bws gwennol am ddim hefyd yn gweithredu rhwng Pont Castle Inn, Heol Caerdydd, ac arosfannau bws y Crochendy yn Ystad Ddiwydiannol Trefforest yn ystod y cyfnod yma – a hynny er mwyn parhau â'ch taith neu ddychwelyd.
Mae amserlen y bws gwennol wedi'i chyhoeddi ar wefan y Cyngor.
Bydd angen tywydd braf er mwyn cynnal y gwaith - bydd unrhyw newid i amserlen y gwaith yn cael ei rhannu â thrigolion ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 21/02/2025