Bydd y llwybr troed sydd i'w weld yn y llun yn cau o ddydd Llun nesaf. Mae'r llwybr yma mewn lleoliad prysur yn Aberdâr ac mae angen cau'r llwybr er mwyn cynnal gwaith atgyweirio ar wal gynnal.
Mae'r strwythur wedi ei leoli ger yr A4233, ar y darn o ffordd rhwng Cylchfan Gadlys a'r gylchfan gyfagos ger Tesco/McDonalds. Mae'r wal yn gweithredu fel ffin i sawl eiddo yng Ngerddi'r Gadlys.
Fydd dim modd defnyddio'r llwybr sy’n mynd ar hyd y wal o ddydd Llun, 3 Mawrth, a hynny er mwyn galluogi gweithwyr i gwblhau'r gwaith yn ddiogel. Does dim angen cyflwyno mesurau rheoli traffig.
Does dim llwybr troed ar ochr arall y ffordd, felly mae'n bwysig bod cerddwyr yn defnyddio'r llwybr ag arwyddion sy'n mynd ar hyd Ffordd Fynediad Tesco, Heol y Depo a Heol Gadlys.
Mae map o'r llwybr troed a'r llwybr amgen i'w weld ar y daflen ganlynol. Mae'r daflen wybodaeth yma wedi'i rhannu â thrigolion.
Bydd mynediad i'r llwybr troed ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Bydd y gwaith atgyweirio'n cynnwys ailosod darnau o waith bloc concrit diffygiol ac amnewid hyd llawn y darnau copin. Rhagwelir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ym mis Mehefin 2025.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni gan y contractwr Hammond ECS, ac mae'r gwaith wedi'i ariannu yn rhan o Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer y Priffyrdd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 28/02/2025