Dyma atgoffa trigolion y bydd angen cau Stryd Hannah Porth ddydd Sul yma, yn rhan o'r cynllun adfywio parhaus i ailddefnyddio ardal o dir diffaith.
Dechreuodd y cynllun ar 3 Chwefror – a hynny er mwyn darparu lleoedd parcio ychwanegol ar gyfer canol y dref, man gwyrdd a seddi i'r cyhoedd. Mae rhagor o fanylion am y gwaith i'w gweld yma.
Er bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei gynnal o fewn ffin y safle yn 37 Stryd Hannah, bydd angen cau'r ffordd ddydd Sul 9 Chwefror er mwyn cynnal gwaith draenio.
Bydd Stryd Hannah ar gau rhwng ei chyffyrdd â Heol Pontypridd a 65 Stryd Hannah, yn ogystal â dwy ran gyfagos o ffyrdd dienw. Mae map o'r ardal a fydd ar gau i'w weld yma.
Mae llwybr amgen ar gael ar hyd Heol Pontypridd, a'r system unffordd dros dro rhwng 11 Heol Pontypridd a 66 Stryd Hannah, sydd i'w weld ar y map uchod.
Bydd y system unffordd dros dro yma tua chyfeiriad y gogledd-ddwyrain yn unig – er mwyn i gerbydau gael mynediad i ran ogledd-orllewinol Stryd Hannah. Bydd arwyddion yn dangos y trefniadau'n glir.
Fydd mynediad ddim ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ond bydd mynediad ar gael i gerddwyr ac i eiddo.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 06/02/2025