Skip to main content

CADWCH EICH CŴN DRAW O GAEAU CHWARAEON NEU DDIRWY A DDAW!

Mae perchnogion cŵn anghyfrifol wedi cael eu rhybuddio, os ydyn nhw'n cael eu dal yn gadael i'w cŵn grwydro ar gaeau chwaraeon Rhondda Cynon Taf, ar dennyn ai peidio, DIRWY a ddaw!

Mae baw cŵn yn falltod ffiaidd ar Rondda Cynon Taf ac fe allai hefyd gael effaith difrifol ar iechyd y rhai sy'n defnyddio'r ardal.

Fe wnaeth Cyngor Rhondda Cynon Taf gyflwyno mesurau mwy llym i fynd i'r afael â baw cŵn ar gaeau chwaraeon SAITH mlynedd yn ôl, a hynny drwy roi Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) ar waith.

Hyd yn oed os caiff baw cŵn ei godi oddi ar gae chwaraeon, bydd y gweddillion ar y gwair a’r pridd o hyd Mae hyn yn ffiaidd a gallai arwain at ganlyniadau newid bywyd ar iechyd rhywun, fel y mae rhai pobl anlwcus wedi'i ganfod, gan gynnwys chwaraewyr pêl-droed ifainc.

Mae'r neges i berchnogion cŵn anghyfrifol yn syml 'DIM BAW CŴN' a 'DIM CŴN AR Y CAEAU'. Mae'r negeseuon yma wedi'u paentio'n felyn llachar ar strydoedd, ffyrdd, caeau a mannau lle mae perchnogion yn mynd â chŵn am dro, felly mae'r neges yn GLIR i bawb. Os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn cymryd camau gweithredu ac yn cyflwyno dirwy o £100.

Mae nifer o'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma eisoes wedi sylweddoli bod peidio â thalu'r dirwy yn arwain at achos llys a dirwy mwy. Mae'n bosibl y caiff manylion eu cyhoeddi ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor hefyd.

Fydd Cyngor Rhondda Cynon Taf DDIM yn goddef perchnogion anghyfrifol sy'n gadael i'w cŵn faeddu ar ein caeau chwaraeon! Y Cyngor oedd y cyntaf yng Nghymru i gyflwyno mesurau rheoli llym o ran rheoli cŵn. Bydd y swyddogion gorfodi BOB AMSER yn cymryd camau i'w dwyn i gyfrif.

Mae'r Cyngor yn gofyn i glybiau chwaraeon roi gwybod am unrhyw broblemau ac achosion o faw cŵn ar y caeau trwy fynd i www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn fel bod modd i ni eu cefnogi a chydweithio er diogelwch y chwaraewyr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden:

"Mae ein caeau chwaraeon a'n ardaloedd dan gyfyngiadau yn bwysig yn ein cymunedau ac yn cael eu defnyddio gan bobl o bob oed drwy'r dydd a'r nos.

Dyw llawer o berchnogion cŵn ddim yn sylweddoli beth yw'r goblygiadau o adael eu cŵn i ddefnyddio'r ardaloedd yma. Mae modd i'r goblygiadau iechyd mae baw cŵn yn achosi gyfyngu ar fywyd. Rydw i'n siŵr na fyddai nifer o'n perchnogion cŵn yn gallu maddau iddyn nhw eu hunain pe bai bywyd plentyn yn newid am byth oherwydd eu ci nhw.

"Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gyfrifol, ond dyw rhai perchnogion cŵn ddim i’w gweld yn sylweddoli bod methu â chlirio baw eu cŵn mewn mannau cyhoeddus yn anghyfreithlon.

"Mae'n ddolur llygad ac mae goblygiadau iechyd difrifol i'r gymuned. Rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i gael gwared ar y broblem yma.

"Mae'n rhaid i lawer o glybiau chwaraeon dreulio oriau cyn eu gemau yn glanhau eu caeau er mwyn amddiffyn eu chwaraewyr, am fod perchnogion cŵn diog ddim yn dilyn y rheolau.

"Byddai'n well gyda ni weld Bwrdeistref Sirol sy'n llawn perchnogion cŵn cyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon. Byddai modd cyflawni hyn yn hawdd pe baen ni i gyd yn dilyn y negeseuon clir, dilyn y rheolau ac ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r rheolau yn amddiffyn pawb sydd am fwynhau ein Bwrdeistref Sirol hardd."

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baw cŵn yn Rhondda Cynon Taf, ewch i www.rctcbc.gov.uk/CwnynBaeddu

Mae modd i drigolion, ysgolion a chlybiau chwaraeon roi gwybod am faw cŵn ar-lein yma www.rctcbc.gov.uk/AdroddBawCwn.

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf – yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx

Wedi ei bostio ar 27/01/2025