Mae gwaith yn rhan o gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Hirwaun wedi symud i leoliad newydd yr wythnos yma – y rhan o Ffordd y Rhigos a Heol Aberhonddu yn y llun.
Dechreuodd cam dau'r cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2024, ac mae gwaith gosod man croesi diogel newydd yn y Stryd Fawr a Rhes Davies wedi mynd rhagddo'n dda.
Mae seilwaith newydd wedi cael ei osod a bydd y groesfan newydd yn barod i'w defnyddio yn dilyn gwaith gosod wyneb newydd ar ddiwedd y cynllun cyffredinol.
Mae Calibre Contracting Ltd bellach wedi symud i'r ail leoliad (Ffordd y Rhigos/Heol Aberhonddu) o'r wythnos yma, sy'n dechrau ar 6 Ionawr 2025.
Bydd gwaith gosod croesfan sebra newydd yn cael ei gynnal dros y chwe wythnos nesaf, a bydd angen goleuadau traffig dros dro i fwrw ymlaen â rhai elfennau o'r gwaith.
Bydd y contractwr yn defnyddio'r mesurau rheoli traffig yma y tu allan i'r cyfnodau prysuraf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar y traffig lleol.
Yna bydd trydedd elfen y cynllun (yr elfen olaf) yn cael ei chynnal, sef gwella'r groesfan bresennol i gerddwyr wrth gyffordd Heol Aberhonddu a Stryd Harris, ynghyd â mesurau diogelwch ychwanegol.
Cafodd rhagor o fanylion am gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Hirwaun eu rhannu ar ddechrau'r gwaith. Mae'r wybodaeth i'w gweld yma.
Mae'r cynllun cyffredinol yn dal i fod ar y trywydd iawn i'w gwblhau yn y gwanwyn, 2025.
Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad parhaus.
Wedi ei bostio ar 09/01/2025