Skip to main content

Rhybuddion Tywydd Ambr ar waith y penwythnos yma

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd ar gyfer y penwythnos yma oherwydd rhagolygon o amodau gaeafol – gan gynnwys cawodydd o law, eirlaw ac eira yn dechrau o ganol dydd Sadwrn 4 Ionawr tan hanner nos Sul 5 Ionawr.

Mae'r rhybuddion tywydd cyfredol yn cynnwys:

  • Rhybudd ambr o eira trwm a glaw rhewllyd a all achosi rhew mewn mannau (rhwng 18.00pm ddydd Sadwrn 4 Ionawr a 12.00pm nos Sul 5 Ionawr).
  • Rhybudd melyn o eira trwm a glaw rhewllyd a all achosi rhew mewn mannau (rhwng 12.00pm ddydd Sadwrn 4 Ionawr a 11.59pm nos Sul 5 Ionawr).

Dyma wybodaeth ddiweddaraf y Swyddfa Dywydd

Bydd y tywydd yn cael ei fonitro'n agos a bydd criwiau Priffyrdd a Gofal y Strydoedd y Cyngor yn trin prif rwydwaith y fwrdeistref sirol, llwybrau uchel a meysydd parcio i baratoi ar gyfer amodau gwael.

Mae'r criwiau hefyd wedi gwirio cyflenwad y biniau graeanu ymlaen llaw mewn lleoliadau ledled y Fwrdeistref Sirol ac wedi'u hail-lenwi lle roedd angen. Mae staff ychwanegol hefyd ar gael er mwyn cymryd camau rhagweithiol ac ymateb i unrhyw broblemau posibl.

Biniau halen: Cais am ail-lenwi, adnewyddu, neu un newydd

Dylai modurwyr sy'n cyflawni teithiau hanfodol gymryd gofal ychwanegol a gyrru yn ôl yr amodau.

Mae'r Cyngor yn annog pawb i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf.

Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau Gwaith ar 01443 425011. 

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Mae modd i drigolion hefyd ymweld ag un o'r Canolfannau Croeso yn y Gaeaf sydd ledled y Fwrdeistref Sirol os oes angen diodydd poeth neu rywle i gadw'n gynnes – dyma ragor o wybodaeth.

Wedi ei bostio ar 03/01/25