Mae'n bosibl bod busnesau lleol - o siopau a chaffis i orielau celf a gwasanaethau trwsio - yn colli allan ar ostyngiadau sylweddol i'w biliau Ardrethi Busnes.
Mae tua 700 o fusnesau eisoes wedi sicrhau’r cymorth ariannol pwysig, gan elwa ar ardrethi is neu hyd yn oed ardrethi balans sero o ganlyniad, ond amcangyfrifir bod hyd yn oed yn rhagor o fusnesau cymwys heb hawlio’r rhyddhad eto.
Y dyddiad cau ar gyfer y cymorth yma ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 yw 31 Mawrth 2025. Gwnewch gais heddiw er mwyn sicrhau eich bod chi'n cael y cymorth ariannol yma ar gyfer eich busnes.
Yn ddiweddar, cadarnhaodd Cyngor Rhondda Cynon Taf ymestyniad i'w gynllun rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn lleol ar gyfer 2025/26. Mae’r cynllun yn darparu rhyddhad ychwanegol o hyd at £500 y flwyddyn i fusnesau sy’n bodloni’r meini prawf Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (dolen).
Mae ymrwymiad gwirfoddol y Cyngor, sydd wedi'i dargedu at fusnesau lleol, yn ychwanegol at y rhyddhad o 40% sy'n cael ei gynnig gan gynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Llywodraeth Cymru.
Y cyfan sydd angen i fusnesau ei wneud yw gwirio eu bod nhw’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd i sicrhau rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru a llenwi ffurflen gais fer. Os yw'r busnes yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch bydd hefyd yn derbyn cymorth ychwanegol Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer busnesau lleol.
Yn fras, diffiniad busnesau sy’n gymwys ar gyfer y rhyddhad yw “mangreoedd manwerthu, hamdden a lletygarwch wedi’u meddiannu”. Mae'r rhestr lawn i’w weld yma.
Mae bron i 60 o gategorïau o fusnesau cymwys wedi’u rhestru, gan gynnwys siopau (siopau bara, siopau cig, gwerthwyr blodau, siopau groser, siopau gemwaith, siopau elusen, siopau trwyddedig, siopau nwyddau metel a rhagor) ynghyd ag optegwyr, fferyllfeydd, ystafelloedd arddangos dodrefn, gwerthwyr ceir/carafanau, gorsafoedd petrol, canolfannau garddio, orielau celf, gwasanaethau sychlanhau, cwmnïau llogi offer, trefnwyr angladdau, siopau bwyd parod, bariau gwin, siopau brechdanau, campfeydd a rhagor!
Bwriwch olwg ar y rhestr lawn.
Meddai'r Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar Gwasanaethau Corfforaethol: “Mae’r fenter yma wedi darparu cymorth hanfodol i fusnesau ers dros bum mlynedd.
“Diolch i ymrwymiad Cyngor Rhondda Cynon Taf i ddarparu gostyngiadau lleol pellach, mae cannoedd o’n busnesau cymwys wedi sicrhau rhyddhad ychwanegol o hyd at £500 y flwyddyn, gan eu gadael gyda gostyngiad sylweddol yn eu bil ardrethi ac, mewn rhai achosion, dim bil ardrethi o gwbl.
“Does dim cost i wneud cais am ostyngiad ar-lein. Mae modd i chi ddarllen rhagor, gwirio eich cymhwysedd a gwneud cais gydag un clic!”
Rhagor o wybodaeth
Wedi ei bostio ar 26/03/2025