Bydd Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd i Barc Aberdâr ddydd Sadwrn 24 Mai!
Bydd y gatiau ar agor rhwng 11am a 5pm a bydd LLWYTH o bethau ar gael! Mynediad am ddim felly dewch draw!
Mae ein llwyfan cerddoriaeth fyw rhad ac am ddim yn cynnwys rhai o berfformwyr teyrnged gorau'r DU eleni, sef:
Taylor Swift, Laura’s Version. Un i'r Swifties! Dyma gyfle i ganu a dawnsio i rai o ganeuon mwyaf poblogaidd artist teithiol mwyaf llwyddiannus y byd yn 2024!
Take@That yn perfformio caneuon – dyna fe - Take That! Ymunwch â'r “bechgyn” wrth iddyn nhw ganu caneuon gan un o fandiau mwyaf poblogaidd y 35 mlynedd diwethaf! Mwynhewch egni a pherfformiadau'r cantorion yma!
Chappell Roan UK – cofiwch eich het gowboi ac ymunwch â'r Pink Pony Club gyda'r deyrnged yma i Chappell Roan. Bydd Gŵyl Aberdâr yn HOT - TO – G O.
Beki fel Sabrina Carpenter - bydd ymwelwyr yn erfyn ar yr act ddiweddglo wych hon i beidio â mynd!
Yn ogystal â'n hartistiaid teyrnged ar gyfer 2025, bydd perfformiadau gan y grŵp dawns lleol Streetwise a grŵp theatr gerdd Kinetic School of Performing Arts.
Ac mae rhagor ar gael! Mae'n bleser gyda ni hefyd agor y llwyfan gyda'r seren deledu a ffefryn y byd addysg Gymraeg, Martyn Geraint, a fydd yn perfformio ei sioe bypedau ddwyieithog, llawn egni, ar y llwyfan yn y bore. Dyma sioe wych i siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd!
Yn olaf ond nid lleiaf – rydyn ni'n falch o gyhoeddi y bydd y cyflwynwyr radio, Jagger a Woody o Heart Radio, yn cyd-gynnal y prynhawn, gan ddod â hwyl i'r teulu cyfan i'r ŵyl.
Fel bob blwyddyn, bydd llawer o adloniant o gwmpas Parc Aberdâr hefyd.
Rhu-feddwch at y sioe ddeinosoriaid am ddim! Fe gewch chi brofiad Jurassic Park gyda Raptors World! Ewch draw i gwrdd â'r deinosoriaid cwbl ryngweithiol yma a'u tîm o geidwaid arbenigol. Bydd modd i chi eu gweld nhw sawl gwaith yn ystod y dydd – bydd yr amseroedd yn cael eu cyhoeddi'n fuan ar wefan www.gwylaberdar.co.uk
Bydd Picnic y Tedis yn ymuno â'r ŵyl wrth iddo fynd ar daith ar gyfer 2025 gyda gweithgareddau i blant 5 oed ac iau a gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid.
Bydd fferm anwesu anifeiliaid, teithiau ar gefn asyn, ffair ac wrth gwrs, bydd y llyn cychod ar agor gyda'i gychod padlo elyrch a dreigiau.
Mae llawer o bethau i'w gweld mewn diwrnod felly teithiwch o gwmpas y parc mewn steil ar y Trên Tir. Ewch ar y trên cynifer o weithiau ag yr hoffech chi drwy'r dydd am £1 yn unig.
Mae yna hefyd rywbeth i'r oedolion, cymerwch seibiant o'r holl weithgareddau yn ardal y bar a gardd gwrw a fydd yn cael ei rhedeg gan y bragwyr lleol Grey Trees Brewery.
Gyda mwy na 50 o stondinau yn cynnwys crefftau, bwyd a diod, gwybodaeth a rhagor, bydd rhywbeth at ddant pawb!
Bydd rhagor o wybodaeth am adloniant a pharcio ar gyfer yr ŵyl eleni, ar gael ar wefan www.gwylaberdar.co.uk cyn bo hir ac ar ein tudalennau Facebook ac Instagram – dilynwch @whatsonrct i gael yr wybodaeth ddiweddaraf!
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
Mae Gŵyl Aberdâr bob amser yn ddiwrnod gwych dros ŵyl banc y gwanwyn. Mae'r adloniant sydd wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn yma yn wych gyda llawer o bethau rhad ac am ddim i bobl o bob oed – bydd y llwyfan yn bennaf yn brysurach nag erioed gyda pherfformiadau cyffrous iawn. Rydw i hefyd yn falch iawn o weld ysgolion dawns a theatr lleol yn cymryd rhan ac yn arddangos talent pobl ifainc o'r fwrdeistref sirol.
Mae cynifer o achlysuron yn cael eu cynnal yn 2025, ac mae pob un ohonyn nhw i'w gweld ar dudalen Facebook y Cyngor ar gyfer achlysuron, @whatsonrct. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu i Ŵyl Aberdâr ac at yr holl achlysuron drwy gydol y flwyddyn.
Mae Gŵyl Aberdâr yn cael ei hariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU.
Wedi ei bostio ar 28/03/2025