Skip to main content

Adroddiad Trosolwg ar gyfer Storm Bert a chamau nesaf yr ymchwiliad

LFR management

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Trosolwg sy'n crynhoi ac yn dadansoddi effeithiau Storm Bert ledled y Fwrdeistref Sirol ym mis Tachwedd 2024. Yn dilyn hun, bydd pum adroddiad ymchwilio i lifogydd Adran 19 yn cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf. Bydd pob un yn canolbwyntio ar ardaloedd penodol sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd. Rydyn ni’n gofyn i drigolion am eu cymorth nhw wrth i ni fynd ati i lywio cam nesaf y broses ymchwilio.

Roedd Storm Bert yn storm law eithafol a welodd glawiad a lefelau afonydd uwch nag erioed  ledled Rhondda Cynon Taf ar 23 a 24 Tachwedd 2024. Cadarnhaodd yr Adroddiad Trosolwg, a gyhoeddwyd ddydd Llun, 17 Mawrth, bod y storm wedi arwain at lifogydd mewnol mewn 438 eiddo ac wedi achosi llifogydd helaeth i isadeiledd megis rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd, canol trefi a pharciau busnes.

Mae'r adroddiad, a gymeradwywyd gan y Cabinet ym mis Chwefror 2025, yn rhoi trosolwg o swyddogaethau a chyfrifoldebau’r Awdurdodau Rheoli Risg ar gyfer gwahanol ffynonellau llifogydd. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am brif afonydd, ac mae llifogydd o garthffosydd yn cael eu rheoli gan Dŵr Cymru.  

Dydy’r Adroddiad Trosolwg ddim yn nodi unrhyw wybodaeth benodol am yr hyn sydd wedi achosi’r llifogydd, camau gweithredu neu waith arfaethedig mewn perthynas â'r storm. Mae'r ddogfen ar gael i'r cyhoedd, ac mae modd bwrw golwg arni ar wefan y Cyngor trwy glicio ar y ddolen ganlynol.

Mae’r adroddiad hefyd yn nodi amlinelliad o'r rhaglen waith ar gyfer y misoedd i ddod. Bydd y Cyngor yn dilyn y rhaglen waith yma er mwyn llunio adroddiadau Adran 19 mewn perthynas â’r llifogydd a ddigwyddodd mewn cymunedau penodol. Mae hwn yn ofyniad statudol yn unol â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ac mae'n pennu'r camau y mae angen i'r Awdurdod Rheoli Risg perthnasol eu cyflawni mewn perthynas â phob ffynhonnell llifogydd.

Aeth swyddogion ati i ymchwilio i 25 o leoliadau llifogydd i ddechrau, ac mae pump yn galw am adroddiad Adran 19.  Maen nhw'n cynnwys Heol Caerdydd yn Aberaman, Canol Tref Pontypridd, Stryd Rhydychen yn Nantgarw, Stryd Britannia ym Mhorth, a Stryd Abertonllwyd, Stryd Dunraven a Stryd y Bryn yn Nhreherbert. Bydd yr adroddiadau yn darparu asesiadau manwl o fecanweithiau ac effeithiau llifogydd yn ystod y storm.

Ceisio cymorth y cyhoedd i lywio camau nesaf yr ymchwiliad

Mae'r Cyngor nawr yn bwriadu casglu gwybodaeth mewn perthynas â Storm Bert, mae swyddogion wrthi’n casglu gwybodaeth am y llifogydd gan y gymuned leol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ac asesu’r llifogydd yn well. Y nod yn y pen draw yw cynnig mesurau a chamau gweithredu a fydd yn leihau effaith stormydd yn y dyfodol – gan gynnwys y posibilrwydd o ddatblygu cynlluniau lliniaru llifogydd wedi’u targedu.

Mae dolen i’r arolwg bellach ar gael ar wefan y Cyngor er mwyn i drigolion a busnesau ei gwblhau, gan eu galluogi i rannu eu profiad nhw o'r hyn a ddigwyddodd yn eu cymuned. Mae'n rhan o dudalen we bwrpasol ar gyfer yr ymgynghoriad.

Fel arall, mae modd i drigolion anfon tystiolaeth megis ffotograffau a fideos o'r llifogydd trwy e-bostio: DataDigwyddiadLlifogydd@rctcbc.gov.uk – ynghyd â disgrifiad byr o'r lleoliad. Bydd modd gwneud hyn am chwe wythnos, hyd at ddydd Llun, 28 Ebrill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Cyhoeddi’r Adroddiad Trosolwg yw prif gam cyntaf yr ymchwiliad i Storm Bert, a gafodd ei ddatgan yn Ddigwyddiad Mawr gan achosi llifogydd mewn 438 eiddo yn Rhondda Cynon Taf. Mae'n nodi pum lleoliad ar gyfer ymchwiliad pellach a hynny’n seiliedig ar feini prawf Llywodraeth Cymru, a bydd adroddiadau Adran 19 perthnasol yn cael eu llunio dros y misoedd nesaf. Mae swyddogion yn dilyn proses sydd eisoes wedi’i sefydlu, a welodd 19 o adroddiadau tebyg yn cael eu cyhoeddi yn dilyn Storm Dennis yn 2020.

“Gall trigolion fod yn sicr ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn cymunedau rhag perygl llifogydd. Ers Storm Dennis, rydyn ni wedi gwario mwy na £100 miliwn i wella, uwchraddio ac adeiladu seilwaith i wella’n gallu i wrthsefyll llifogydd. Rydyn ni o’r farn bod y buddsoddiad yma wedi llwyddo i leihau perygl llifogydd mewn dros 2,200 o adeiladau bedair blynedd yn ddiweddarach, yn ystod Storm Bert. Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod llawer mwy i'w wneud o hyd, ac mae stormydd o'r fath yn digwydd yn fwy aml o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu cyllid y Cyngor, a dilyn holl lwybrau cyllid Llywodraeth Cymru, i gyflawni gwaith lliniaru perygl llifogydd wedi'i dargedu.

“Mae modd i drigolion hefyd fwrw golwg ar Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Chynllun Gweithredu diwygiedig y Cyngor, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2025, sy’n nodi ein dull hollgyffredinol ar gyfer ymdrin â pherygl llifogydd lleol dros y chwe blynedd nesaf. Mae'n cynnwys manylion am amcanion, mesurau a chamau gweithredu'r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd o’r ffynonellau lleol yn ein cymunedau y mae’r Cyngor yn gyfrifol amdanyn nhw– er enghraifft, dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin, a dŵr daear. Rheolir ffynonellau eraill gan Awdurdodau Rheoli Risg eraill – er enghraifft, cyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru yw llifogydd o brif afonydd.

“Mae cam nesaf yr ymchwiliad i Storm Bert bellach yn mynd rhagddo, a bydd yn para tan 28 Ebrill. Mae swyddogion wedi sefydlu ymgynghoriad pwrpasol i helpu trigolion i ddarparu tystiolaeth megis profiadau personol, lluniau a fideos, am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y storm. Bydd hyn yn ein helpu ni i ddeall yn well yr hyn a ddigwyddodd ar lawr gwlad, a chynnal asesiadau ffeithiol am yr hyn a achosodd llifogydd mewn cymunedau penodol. Rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n gallu cyfrannu i gymryd rhan yn y broses.”

Wedi ei bostio ar 19/03/2025