Dyma roi gwybod y bydd gwaith gosod wyneb newydd i adnewyddu'r rhannau lliw wrth gyffordd Quarter Mile ar yr A4059 yn Abercynon yn cael ei gynnal o 27 Mai. Bydd pedair sifft waith dros nos (7pm-2am) er mwyn lleihau aflonyddwch yn sylweddol.
Yn ystod oriau'r gwaith, bydd modd i draffig trwodd ddefnyddio'r A4059 gyda goleuadau traffig dwyffordd, ond fydd y gyffordd ddim ar agor i draffig sy'n teithio i Abercynon nac oddi yno. Dyma'r un trefniadau â'r rhai a oedd ar waith yn ystod y gwaith diweddar ym mis Ebrill 2025, lle cafodd wyneb newydd ei osod ar y ffordd gerbydau a chafodd y llinellau gwyn eu hadnewyddu.
Bydd contractwr y Cyngor yn canolbwyntio ar rannau lliw'r gyffordd rhwng dydd Mawrth 27 Mai a dydd Gwener 30 Mai, o 7pm tan 2am, ar bob un o'r pedair noson. Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 2am ddydd Sadwrn 31 Mai. Fydd dim mesurau rheoli traffig y tu allan i'r oriau yma.
Nodwch – bydd stydiau ffordd newydd hefyd yn cael eu gosod ar y rhan yma o ffordd yn y dyfodol. Bydd y gwelliannau i gyffordd Quarter Mile yn ategu pecyn buddsoddi ehangach ar yr A4059, rhwng Abercynon a Chwm-bach, i adnewyddu'r llinellau gwyn ar y ffordd a gosod stydiau ffordd newydd.
Yn ystod y gwaith rhwng 27 a 30 Mai (7pm-2am), bydd goleuadau traffig dwyffordd dros dro yn cael eu defnyddio ar yr A4059 wrth Gyffordd Quarter Mile. Bydd hyn yn sicrhau bod y prif lwybr trwy Gwm Cynon yn parhau i fod ar agor, wrth alluogi gweithlu'r contractwr i fwrw ymlaen â'r gwaith mewn amgylchedd diogel.
Bydd ffordd y B4275 ar gau dros dro, yn uniongyrchol o Gyffordd Quarter Mile i'w chyffordd o Drem y Parc. Mae hyn yn golygu na fydd mynediad i Abercynon, nac oddi yno, ar hyd y gyffordd yn ystod oriau'r gwaith. Mae map o'r ardal a fydd ar gau a'r llwybr amgen i'w weld yma.
Y llwybr amgen fydd ar hyd yr A4059, (yr A470) Cylchfan Abercynon, yr A472, Cylchfan Fiddler's Elbow, yr A4054 a'r B4275 – neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys ac i gerddwyr ond fydd dim mynediad ar gyfer cyrraedd eiddo. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.
Cafodd gwaith gosod wyneb newydd wrth gyffordd Quarter Mile ei glustnodi i'w gwblhau yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2025/26, gyda dyraniad cyllid gwerth £80,000. Mae'r rhaglen yn darparu buddsoddiad gwerth £6.94 miliwn i osod wyneb newydd ar ffyrdd lleol, sy'n cynnwys 78 o gynlluniau penodol yn ein cymunedau.
Mae'r gwelliannau wrth gyffordd Quarter Mile yn elfen bwysig o welliannau diogelwch ar y ffyrdd ehangach sydd wrthi'n cael eu rhoi ar waith ar hyd llwybr yr A4059 yng Nghwm Cynon, gyda chymorth Go Safe. Mae'r rhain yn cynnwys lleihau terfynau cyflymder presennol a chyflwyno system camerâu cyflymder cyfartalog, mewn ymateb i gynnydd amlwg yn nifer y gwrthdrawiadau difrifol iawn dros y blynyddoedd diwethaf.
Wedi ei bostio ar 21/05/2025