Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o ddathlu cyflawniad anhygoel grŵp Valley Veterans, sydd wedi'i anrhydeddu â Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol - yr anrhydedd pennaf i grwpiau gwirfoddol yn y DU, sy'n cael ei ddisgrifio yn aml yn "MBE ar gyfer elusennau."
Cafodd grŵp Valley Veterans ei sefydlu 25 mlynedd yn ôl gan Paul Bromwell MBE, cyn-filwr Rhyfel y Falklands a'r Gwarchodlu Cymreig. Dechreuodd y grŵp yn fenter a oedd yn ariannu ei hun yn ystod cyfnod lle nad oedd llawer o gymorth ar gael i gyn-filwyr. Roedd Paul yn defnyddio'i brofiadau ei hun gydag Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) a'i hyfforddiant yn fentor cymorth iechyd meddwl i gyn-filwyr, er mwyn sefydlu amgylchedd lle byddai modd i gyn-filwyr gael mynediad at gymorth iechyd meddwl a chwmni cymheiriaid.
Mae Paul a'i wraig, Sian Bromwell, wedi ymroi dwy ddegawd o aberth personol er mwyn sicrhau bod gyda chyn-filwyr lleol le i droi am help a chymorth - gan ariannu'r grŵp eu hunain am y 15 mlynedd gyntaf. Roedd eu hymrwymiad wedi gosod sylfaen ar gyfer yr elusen, a ddaeth yn sefydliad cofrestredig bum mlynedd yn ôl. Ers hynny maen nhw wedi derbyn cymorth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a sefydliadau eraill megis Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Cronfa Eglwysi Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae'r wobr fawreddog yma yn cydnabod degawdau o ymroddiad gan Paul, Sian, eu teulu, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, a'r gymuned ehangach. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi trawsnewid Valley Veterans yn grŵp hollbwysig ar gyfer y rheiny sydd wedi gwasanaethu ein gwlad - gan gynnig gofal, cyfeillgarwch, a chymorth ymarferol.
Meddai Paul Bromwell MBE, sylfaenydd Valley Veterans: "Rwy'n falch iawn bod ein grŵp wedi derbyn Gwobr fawreddog y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol. Hoffwn i ddiolch i bob un o'n gwirfoddolwyr, cefnogwyr, a chyn-filwyr sydd wedi ymuno a chyfrannu at ein cenhadaeth.
Mae grŵp bach a oedd yn rhoi cymorth i gyn-filwyr yn ein cymuned wedi tyfu i fod yn grŵp hollbwysig i nifer. Mae gweld ein gwaith yn cael ei gydnabod ar y lefel uchaf yn rhyfeddol ac yn rhoi boddhad mawr."
Yn gynharach eleni, derbyniodd Paul MBE am Wasanaethau Rhagorol i Gymunedau’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Lleol - adlewyrchiad o'i ymdrechion diflino i wella bywydau'r rheiny sydd wedi gwasanaethu. Dan ei arweiniad, mae Valley Veterans wedi helpu cannoedd o gyn-filwyr i ail-fagu hyder, dod o hyd i gymuned, a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Mae datblygiadau diweddar yn Valley Veterans yn cynnwys amgylchedd natur penodol ar gyfer therapi garddwriaethol a boreau brecwast wythnosol sy'n cael eu cynnal yng Nghanolfan Cymuned Tonpentre. Maen nhw'n croesawu dros 60 o gyn-filwyr bob dydd Iau am bryd poeth a chwmni cymheiriaid, yn ogystal â mynediad at gymorth iechyd meddwl, cyflogaeth, eiriolaeth a chyngor o ran tai. Mae Paul wedi atgyfnerthu'r mentrau yma drwy sefydlu cysylltiadau ag elusen MIND a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyn-filwyr Cymru y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG).
Mae menter fach a gafodd ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ôl bellach wedi’i thrawsnewid yn grŵp hollbwysig ar gyfer dros 140 o gyn-filwyr ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r fideo canlynol, wedi'i greu gan Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA), yn esbonio sut mae therapi ceffylau wrth galon gwaith Valley Veterans a Paul Bromwell:
Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â Valley Veterans, ffoniwch 07733 896 128 neu ewch i: Valley Veterans
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: "Rydyn ni'n falch iawn o grŵp Valley Veterans a'r gwaith gwirfoddol anhygoel mae’n ei gyflawni ar ran ein cymuned y lluoedd arfog. Mae derbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn brawf o'i daith, yr heriau mae wedi'u goresgyn, a'i ymrwymiad parhaus i gyn-filwyr a'u teuluoedd.
"Mae ymroddiad Paul a Sian dros y 25 mlynedd ddiwethaf yn ysbrydoledig dros ben - creu amgylchedd diogel a chefnogol ar gyfer y rheiny sydd wedi gwasanaethu ein gwlad. Rwy'n falch iawn eu bod nhw wedi derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol yma, sy'n tynnu sylw at rym gwasanaeth gwirfoddol a'r effaith gadarnhaol mae'n ei chael ar gynifer o fywydau.
"A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n parhau i ymrwymo i'n cymuned y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr drwy Gyfamod y Lluoedd Arfog. Rydyn ni'n cydweithio'n agos â sefydliadau megis Valley Veterans er mwyn sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl - boed hynny drwy gymorth o ran tai, cyflogaeth neu les.
"Mae'r cyflawniad rhyfeddol yma yn dangos ymrwymiad Valley Veterans i gymuned y Lluoedd Arfog a'r gwahaniaeth mae'n parhau i'w wneud i fywydau'r rheiny sydd wedi gwasanaethu."
Cafodd Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol ei chreu yn 2002 dan enw Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol er mwyn dathlu Jiwbilî Aur y Frenhines Elizabeth II. Mae wedi bod yn taflu goleuni ar waith gwych grwpiau gwirfoddol ledled y DU am nifer o flynyddoedd.
Mae'r wobr yn cyfateb i MBE, a dyma'r wobr fwyaf anrhydeddus sy'n cael ei rhoi i grwpiau gwirfoddol yn y DU, ac maen nhw'n ei derbyn am oes. Manylion yma: Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol
Mae'r data diweddaraf yn dangos bod mwy na 7,500 o gyn-filwyr y lluoedd arfog yn byw ledled Rhondda Cynon Taf. Roedd y Cyngor ymhlith yr awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012 – ymrwymiad a gafodd ei ailddatgan yn 2018. Mae'r Cyfamod yn symboleiddio parch at ein gilydd rhwng cymunedau'r sifiliaid a'r Lluoedd Arfog ledled y Fwrdeistref Sirol.
Yn 2017, derbyniodd y Cyngor Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn am ein cefnogaeth barhaus o gymuned y Lluoedd Arfog. Cadwodd y Cyngor y wobr unwaith eto yn 2022 wedi cyflwyno'r Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer Cyn-filwyr a Milwyr wrth Gefn ym mis Ionawr 2022.
Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cymorth a chyngor penodol, diduedd am ddim i gyn-filwyr a'u teuluoedd. I siarad â swyddogion ymroddedig yn gwbl gyfrinachol, ffoniwch 07747 485 619 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am tan 5pm), neu e-bostiwch: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk
Os hoffech chi ddysgu rhagor am ymrwymiad ehangach y Cyngor i'r Lluoedd Arfog a chymuned y cyn-filwyr, ewch i: Cyfamod y Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf
Wedi ei bostio ar 19/11/2025