Mae'r Cyngor wedi cwblhau cynllun gwella systemau draenio yn #Ystrad yn ddiweddar. Nod y cynllun oedd gwella'r gallu i wrthsefyll llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.
Dechreuodd Carfan Gofal y Strydoedd ar y cynllun yma, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, ym mis Mehefin 2025. Roedd y gwaith yn cynnwys cyfres o fesurau gwella cwlferi oddi ar Heol Penrhys.
Mae gwaith wedi'i gynnal hefyd i wella mynediad i'r seilwaith draenio, a hynny i sicrhau ei bod hi'n haws cynnal gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.
Mae trefniadau cau llwybrau troed Dan-y-coed a Dan-y-graig bellach wedi dod i ben.
Sicrhaodd y Cyngor gyllid ar gyfer y cynllun yma trwy Gynllun Grant Gwaith Graddfa Fach Llywodraeth Cymru – yn rhan o gyllid ehangach gwerth £1.69 miliwn ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 2025/26.
Hefyd, mae £2.83 miliwn wedi'i sicrhau trwy Raglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y flwyddyn ariannol yma, yn ogystal ag £1.5 miliwn trwy'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth.
Diolch i drigolion Ystrad am eich cydweithrediad yn ystod y gwaith pwysig yma yn yr ardal leol.
Wedi ei bostio ar 07/10/2025