Skip to main content

Cynnal gwaith ymgysylltu yn rhan o'r cynllun Llwybrau Diogel arfaethedig ar gyfer ardal Cwm-parc

Cwmparc SRIC 2 - Copy

Bydd cyfle cyn bo hir i drigolion Cwm-parc ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar gynigion Llwybrau Diogel ar gyfer eu cymuned - mae’r cynigion yn canolbwyntio ar ddatblygu ystod eang o gyfleusterau diogelwch i gerddwyr ger Ysgol Gynradd y Parc.

Ym mis Ebrill 2025, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau cyllid gwerth £287,200 gan y Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, i ddatblygu a chyflawni cynllun yn ardal Cwm-parc yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2025/26). Bydd y Cyngor yn cynnal proses ymgynghori cyn-statudol rhwng dydd Gwener 19 Medi a dydd Gwener 10 Hydref, a hynny i annog y gymuned i gyflwyno adborth mewn perthynas â’r cynigion.

Mae swyddogion wedi datblygu cynllun mewn partneriaeth ag Ysgol Gynradd y Parc, gan gynnwys disgyblion lleol - a'u nod yw gwella diogelwch ar y ffyrdd a chefnogi cyfleoedd teithio llesol yn y gymuned leol. Gweler y cynigion cychwynnol isod:

  • Culhau blaenoriaeth mewn mannau amrywiol ar hyd Heol y Parc i fyrhau pellteroedd croesi a rheoli cyflymder cerbydau.
  • Croesfan wastad wedi'i chodi ar Heol y Parc yn uniongyrchol y tu allan i fynedfa'r ysgol isaf i ddarparu man croesi ar yr un lefel.
  • Gosod adeiladwaith ar Stryd Tallis y tu allan i fynedfa’r ysgol uchaf, er mwyn lleihau pellteroedd croesi a gwella diogelwch.
  • Cyflwyno arhosfan bysiau newydd ar ben isaf Heol y Parc.
  • Cyflwyno amrywiaeth o welliannau i gyffyrdd ledled Cwm-parc, er mwyn gwella gwelededd a diogelwch cerddwyr.
  • Cyflwyno gwelliannau i lwybrau troed mewn sawl lleoliad ledled Cwm-parc, er mwyn creu llwybrau i gerddwyr sy’n fwy diogel.
  • Cyflwyno cyfyngiadau aros a llwytho i wella gwelededd i gerddwyr a cherbydau mewn nifer o leoliadau allweddol, gan annog cerbydau i symud mewn modd diogel.

Os yw’r cynigion yn cael eu cymeradwyo yn dilyn yr ymgynghoriad, mae disgwyl i brif gam y  cynllun yma ddechrau yn ystod mis Chwefror 2026.

O ddydd Gwener 19 Medi, bydd modd i drigolion ddysgu rhagor a dweud eu dweud ar wefan y Cyngor – www.rctcbc.gov.uk/traffig. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth a chynlluniau sy'n berthnasol i'r cynigion.

Bydd trigolion yng Nghwm-parc hefyd yn derbyn llythyr sy’n cynnwys manylion yr ymgynghoriad ac amlinelliad o’r cynigion. Bydd modd bwrw golwg ar y cynlluniau yng Nghanolfan Cymuned Cwm-parc yn Neuadd y Parc, Heol y Parc (CF42 6LD), yn ogystal â'r Ganolfan IBobUn yn 1 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd (CF37 4TH).

Mae modd i drigolion ddweud eu dweud drwy ysgrifennu at y Rheolwr y Gwasanaethau Traffig, Rheoli Traffig, Llawr 2, Llys Cadwyn, Pontypridd (CF37 4TH) - bydd amlen barod gyda chyfeiriad arni ynghlwm wrth y llythyr sy’n cael ei anfon at drigolion. Fel arall, mae croeso i chi anfon eich adborth drwy e-bost: gwasanaethautraffig@rctcbc.gov.uk

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae swyddogion wedi datblygu cynigion pwysig i wella’r amgylchedd i gerddwyr yng Nghwm-parc, gan ganolbwyntio ar y strydoedd ger Ysgol Gynradd y Parc. Mae’r cynigion yn amrywio o osod croesfan newydd wedi’i chodi y tu allan i'r ysgol, cyflwyno ystod o welliannau i lwybrau troed, cyffyrdd a ffyrdd, gyda’r nod o wella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau cyflymder cerbydau mewn lleoliadau prysur yn y gymuned.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ledled Rhondda Cynon Taf – mae llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â'n prosiectau buddsoddi mewn ysgolion, neu’n canolbwyntio ar leoliadau lle mae angen gwella diogelwch ar y ffyrdd. Yn 2024, fe wnaethon ni gyflawni cynlluniau yn Y Ddraenen-wen a Phentre'r Eglwys, a chafodd dau gam o waith eu cwblhau yn ardal Hirwaun yn gynharach eleni yn rhan o’r cyllid ar gyfer 2024/25. Byddai cynllun Cwm-parc cael ei gyflawni gan ddefnyddio cyllid 2025/26, a byddai'n cael ei gyflawni yn gynnar yn 2026.

“Byddai’r cynigion yn gwella diogelwch ar y ffyrdd a diogelwch i gerddwyr yn lleol, yn ogystal ag  annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn rhan o’u teithiau bob dydd – gan wella iechyd a lles a lleihau tagfeydd traffig.

"Byddwn i'n annog trigolion Cwm-parc i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad dros y tair wythnos nesaf, o 19 Medi. Bydd pobl sy'n byw'n lleol yn derbyn llythyr sy’n rhannu manylion yr ymgynghoriad ac amlinelliad o’r cynigion yn ogystal ag amlen barod fel bod modd i drigolion gymryd rhan drwy'r post. Bydd modd hefyd cymryd rhan wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Cymuned Cwm-parc, a bydd tudalen ymgynghori ar-lein hefyd. Bydd swyddogion yn defnyddio'r holl adborth sy’n cael ei gyflwyno i lywio’r cynigion a bwrw ymlaen â cham adeiladu’r cynllun.”

Wedi ei bostio ar 18/09/2025