Skip to main content

Gwaith archwilio ar bont dros yr A4059 yn Abercynon

Royal Oak Bridge grid - Copy

Dylai trigolion a defnyddwyr y ffordd fod yn ymwybodol bydd gwaith dros nos yn cael ei gynnal o ddydd Mawrth (23 Medi), er mwyn cynnal gwaith archwilio a phrofi ar Bont Royal Oak yn Abercynon.

Mae'r bont yn cludo Heol Goitre-Coed dros yr A4059, wrth fan ychydig i'r gorllewin o Gylchfan Abercynon.

Cafodd cynllun atgyweirio a chynnal a chadw ei gynnal ar y strwythur yn gynharach eleni, a rhaid dilyn hynny gyda gwaith archwilio dros y ddwy wythnos nesaf.

Yn gyntaf, rhwng 23 a 25 Medi (dydd Mawrth i ddydd Iau), bydd gwaith archwilio dros nos a gwaith profi concrit yn cael ei gynnal ar y bont - gan ddechrau am 8pm a dod i ben erbyn 5am y bore canlynol.

Bydd y gwaith yma yn cael ei gynnal yn ystod y nos er mwyn tarfu cyn lleied â phosib, gyda lonydd yn cael eu cau a goleuadau traffig yn cael eu defnyddio ar yr A4059, ger Cylchfan Abercynon. (Gweler y llun ar y chwith).

Mae modd i elfen yma'r cynllun fod yn swnllyd - does dim modd osgoi hyn o ganlyniad i waith drilio hanfodol, ond bydd hyn yn cael ei gynnal gan darfu cyn lleied â phosib.

Yn ail, rhwng 29 a 30 Medi (dydd Llun i ddydd Mawrth), bydd gwaith yn cael ei gynnal yn ystod y dydd ar Heol Goitre-Coed er mwyn cynnal gwaith archwilio a gwaith profi concrit tebyg - rhwng 8am a 5pm bob dydd.

Bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu gosod ar y ffordd, (gweler y llun ar y dde), gan gynnwys cau lôn a defnyddio goleuadau traffig dwy-ffordd er mwyn cael mynediad ar siambrau mewnol y bont.

Does dim disgwyl i'r elfen yma darfu llawer, am fod lefelau traffig cymharol isel ar y rhan yma o'r ffordd.

Bydd trigolion sy'n byw ger Pont y Royal Oak yn derbyn llythyr er mwyn cyflwyno ac esbonio'r gwaith.

Bydd y gwaith ar y safle yn cael ei gynnal gan ymgynghorwyr y Cyngor - WSP ac is-gontractwyr - a bydd yn cael ei ariannu yn rhan o'r Rhaglen Cyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth barhaus.

Diolch i gymunedau lleol a defnyddwyr y ffordd ymlaen llaw am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 18/09/2025