Parc Gwledig Cwm Clydach yw'r llecyn hardd diweddaraf i gael budd o gynllun buddsoddi yng nghefn gwlad Cyngor Rhondda Cynon Taf, er budd trigolion ac ymwelwyr.
Erbyn diwedd y rhaglen buddsoddi, bydd £300,000 wedi'i fuddsoddi dros ddwy flynedd er mwyn cynnal gwaith clirio, rheoli chwyn a gordyfiant, codi ffensys a ffiniau, creu neu ddiogelu llwybrau, gosod seddi a meysydd picnic a sicrhau bod modd i bawb fwynhau mannau agored hardd.
Bydd Parciau Gwledig Cwm Clydach, Barry Sidings a Chwm Dâr - yn ogystal â'u hymwelwyr - oll yn elwa o'r gwelliannau a'r buddsoddiad.
Bydd y gwaith diweddaraf wedi'i gynllunio yn rhan o'r buddsoddiad parhaus yn cynnwys:
Gwared â choed helyg a choed bach/prysgoed eraill sy'n gordyfu ar hyd Nant Clydach, sy'n llifo o'r llyn uchaf (sy'n cynnwys a'r rhaeadr) i'r llyn isaf (ger y caffi). Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar y rhan rhwng y rhyd a'r llyn isaf.
Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 8 Medi ac mae contractwyr yn amcangyfrif y bydd yn cymryd pythefnos i'w gwblhau (gan weithio drwy gydol y dydd, yn ystod yr wythnnos yn unig). Bydd mynediad yn cael ei gynnal drwy gydol y cyfnod yma, ond efallai bydd rhaid i'r contractwyr amgáu ardaloedd â ffens ger ochr y llwybr er mwyn cwblhau eu gwaith.
Dylai ymwelwyr â'r parc gwledig yn ystod y cyfnod yma fod yn gwbl ymwybodol bod gwaith yn cael ei gynnal, yn enwedig wrth fynd â chi am dro neu farchogaeth ceffyl ar hyd y llwybr.
Bydd gwaith pellach yn cynnwys gwared â chwyn o'r llyn gwaelod ddechrau mis Hydref. Ni fydd angen cau'r llwybr sy'n mynd o amgylch y llyn wrth gynnal y gwaith yma, a ni fydd yn effeithio ar y caffi a chyfleusterau'r gymuned.
Bydd dwy fainc picnic arall yn cael eu gosod yn y parc gwledig, yn ategol i'r pedair mainc sydd wedi'u gosod yn barod dros y misoedd diweddar.
Bydd cam diweddaraf y gwaith gwella yn dilyn cynlluniau blaenorol er mwyn gwella draeniad y llwybr sy'n cysylltu'r ddau lyn, amnewid y cerrig sarn ym mhen uchaf y llyn a gwella/atgyweirio'r llwybr o amgylch y llyn isaf.
Mae Parc Gwledig Cwm Clydach yn atyniad sylweddol i'r rheiny sy'n byw gerllaw a hefyd i ymwelwyr o ledled y DU, sy'n ymweld er mwyn mwynhau'r llynnoedd, y bywyd gwyllt, yr awyr agored a'r teithiau cerdded yn y dirwedd drawiadol o'i amgylch.
Mae Lakeside Café, sy'n gweini amrywiaeth o brydau poeth ac oer, byrbrydau a diodydd - ar deras gyda golygfeydd hyfryd dros y llyn, yn ogystal â chyfleuster llogi beiciau mynydd, teithiau cerdded tywys a rhagor - wedi cadarnhau safle'r parc gwledig yn atyniad i bawb.
Yn yr un modd â phob parc gwledig yn Rhondda Cynon Taf - darllenwch ragor amdanyn nhw yma - mae'n hanfodol eu bod nhw'n cael eu cynnal a'u gwella lle bynnag fo modd, er mwyn sicrhau'r profiad gorau posib i ymwelwyr.
Mae'r Rhaglen Buddsoddi yng Nghefn Gwlad hefyd wedi sicrhau gwelliannau sylweddol ym Mharc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr. Mae'r gwaith sydd wedi'i gwblhau yna yn cynnwys:
- Gosod ffensys a gatiau ar gyfer y maes carafanau a'r ganolfan ymwelwyr
- Ail-wynebu maes parcio'r llyn uchaf
- Gwelliannau i'r tarmac y tu allan i Ganolfan Farchogaeth Green Meadow er mwyn gwella diogelwch i gerddwyr
- Creu ardal redeg i gŵn
- Gwared â chwyn o'r llyn uchaf
- Cwblhau gwrych-furiau
- Gosod llawr newydd yn ardal y toiledau, y coridorau, yr ystafell gynhadledd, lolfa'r preswylwyr, yr ystafell hirgrwn ac ardal yr ystafell haul.
- Dodrefn newydd ar gyfer yr ystafell haul, yr ystafell gynhadledd a'r cwrt awyr agored
- Cyfleusterau golchi dillad newydd ar gyfer y maes carafanau
Ym Mharc Gwledig Barry Sidings, yn dilyn cwblhau gwaith i wella'r maes parcio a thorri chwyn yn y pwll, mae gwaith pellach wedi'i gynllunio eleni er mwyn gwella'r llwybr beicio 'pwmp', gwella'r maes parcio er mwyn cynyddu'r capasiti a gwaith adfer y pwll er mwyn gwared â silt a gwella'r cloddiau a'r system draenio.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni'n falch iawn o'n parciau gwledig hyfryd. Mae gyda phob un ohonyn nhw arlwy eu hunain sy'n sicrhau eu bod nhw'n atynnu ymwelwyr lleol ac o bell i fwynhau awyr iach, mannau agored hardd, bwyd blasus yn y caffis, llwybrau beicio mynydd, llwybrau cerdded, ardaloedd chwarae antur a rhagor.
"Dyma pam mae hi'n bwysig fod y Cyngor yn parhau i sicrhau buddsoddiad sydd nid yn unig yn sicrhau buddsoddiad yn y mannau awyr agored yma er budd pawb, ond yn gwella ac estyn eu harlwy."
Nodwch: mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal yn rhan o’r cynllun Buddsoddi mewn Cefn Gwlad yn cael ei gynnal ar wahân i'r gwaith sy’n cael ei gynnal gan ddefnyddio Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am y cynllun yma:
Wedi ei bostio ar 18/09/2025