Skip to main content

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cefnogi Wythnos Ailgylchu 2025!

Recycle-Week-2025-mighty-welsh resized

Yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni (22 – 28 Medi) dyma ofyn i drigolion ymuno â'r ymgyrch genedlaethol 'Rescue Me, Recycle' ac ymgyrch Cymru yn ailgylchu 'BYDD WYCH. AILGYLCHA' dros Rhondda Cynon Taf!

Mae'r ddwy ymgyrch yn ceisio gwneud i ni ystyried yr eitemau y mae modd i ni eu hailgylchu a'r eitemau y dylen ni fod yn eu hailgylchu – gan gynnwys gwastraff bwyd does dim modd ei fwyta. Mae'r ymgyrch genedlaethol yn bwrw golwg ar yr eitemau rydyn ni'n eu heithrio neu'n anghofio amdanyn nhw'n aml iawn y mae modd i ni eu hailgylchu - boed yn ganiau erosol neu boteli siampŵ, mae'r eitemau yma'n aml iawn yn cael eu taflu'n anghywir i'r sach ddu!

Mae ymgyrch Cymru yn ailgylchu'n bwrw golwg yn benodol ar wastraff bwyd - sydd yn eitem arall sy'n cael ei thaflu'n llawer rhy aml i'r bin gwastraff! Mae'r ddwy ymgyrch yn cael eu defnyddio i atgoffa pobl bod modd ailgylchu plisg wyau a bagiau te, a'u rhoi yn y cadi yn lle'r bagiau gwastraff du. Amcangyfrifir mai bwyd yw 25% o'r bag sbwriel neu fin sbwriel cyffredin yng Nghymru, a bwyd mae modd ei fwyta yw'r rhan fwyaf ohono. Yn 2022, fe wnaeth gwaith dadansoddi bagiau du yn Rhondda Cynon Taf gan WRAP ddod i'r casgliad bod 39% o’r holl wastraff bagiau du yn eitemau bwyd – mae’r camau rydyn ni wedi’u cymryd dros y tair blynedd diwethaf wedi helpu i leihau'r ganran yma'n sylweddol!

Ers safoni casgliadau gwastraff ym mis Medi 2024, bu cynnydd o 17% mewn gwastraff bwyd a ailgylchwyd a gostyngiad o 36% mewn gwastraff bagiau du a gasglwyd! Rydyn ni hefyd yn ailgylchu dros 70% o'n gwastraff yn gyson ac rydyn ni'n falch o ddweud ein bod wedi rhagori ar darged 70% Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.

Rydyn ni'n ailgylchwyr GWYCH yng Nghymru ac yr ail orau yn y byd!

Mae halogi'n rhwystr mawr i ailgylchu - gall hyn arwain at ymdrechion MAWR ein trigolion yn mynd yn ofer!

Mae modd osgoi hyn drwy olchi eitemau yn y dŵr golchi llestri sydd gyda chi'n weddill.

Gallai’r un tun yna, gydag ychydig o weddillion bwyd ynddo, achosi bag cyfan o eitemau i beidio â chael ei ailgylchu – neu gallai hyd yn oed ddifetha lori lawn o eitemau. Mae'n bwysig iawn gwybod beth, ble a sut i ailgylchu eitemau'r cartref. Drwy lwc, mae gan Rondda Cynon Taf adnodd chwilio A-Y sydd ar gael i drigolion ei ddefnyddio - www.rctcbc.gov.uk/Chwilioamailgylchu

Mae hefyd yn allweddol i sicrhau nad yw eich bagiau du (3 bag du bob 3 wythnos) yn cynnwys unrhyw eitemau gwastraff bwyd y mae modd eu hachub – mae hynny'n golygu ailgylchu unrhyw wastraff bwyd does dim modd ei fwyta a pheidio â gwastraffu bwyd da!

Mae Cymru yn ailgylchu wedi llunio rysetiau newydd cyffrous i'ch helpu chi!

Efallai na fydd modd ailgylchu rhai eitemau wrth ymyl y ffordd, ond mae opsiynau eraill...

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned – Mae CHWE Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned ledled y Fwrdeistref Sirol, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos rhwng 8am a 6.30pm (oriau agor yr haf). Mae pob canolfan yn derbyn nifer fawr o eitemau, o blastigau caled i bridd, pren a dyfeisiau trydanol sydd wedi torri. Mae modd gweld y manylion llawn yma www.rctcbc.gov.uk/canolfannauailgylchu

Ailgylchu Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) Bychain mewn rhai Canolfannau Hamdden - Mae gyda SAITH prif ganolfan Hamdden am Oes ledled Rhondda Cynon Taf finiau penodol yn eu derbynfeydd i chi adael eich eitemau WEEE bychain (unrhyw beth sy'n llai na thostiwr pedair tafell) ynddyn nhw cyn i chi gymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden - bydd eich ffitrwydd a'r amgylchedd yn elwa. Rhagor o wybodaeth yma.

Siopau Ailddefnyddio – Mae tair siop ailddefnyddio bwrpasol o’r enw ‘Y Sied’ ar draws y Fwrdeistref Sirol, gydag un ym mhob ardal yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r siopau yma'n derbyn rhoddion er mwyn sicrhau bod eich eitemau diangen chi yn mynd i gartref newydd. Maen nhw hefyd ar agor i chi fynd yno i gael bargen a gwneud eich rhan chi ar gyfer yr amgylchedd, gan wneud trysorau ar gael i bawb! O deganau i fyrddau a chadeiriau, mae gan 'Y Sied' rywbeth at ddant pawb! Mae modd gweld y manylion llawn yma: www.rctcbc.gov.uk/YSied.

Siopau Atgyweirio – Mae’r Cyngor yn cefnogi nifer o achlysuron atgyweirio dros dro lleol ac mae’n bwriadu datblygu ardal reolaidd yn y cyfleuster ‘Y Sied’ newydd yn Stryd y Canon, Aberdâr.

Archfarchnadoedd – Mae nifer o archfarchnadoedd lleol yn cynnig cynlluniau ailgylchu bagiau siopa/plastig meddal (e.e. bagiau bara) a hyd yn oed pecynnau creision, ynghyd ag ailgylchu batris. Edrychwch am y cynlluniau yma yn eich archfarchnad leol y tro nesaf y byddwch chi'n siopa. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau'r Amgylchedd: "Hoffwn ddiolch i drigolion Rhondda Cynon Taf am eu hymdrechion ailgylchu ARBENNIG, maen nhw wedi bod yn wych. Os byddwn ni'n parhau â hyn, byddwn yn parhau i ragori ar dargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol! Da iawn drigolion Rhondda Cynon Taf!

“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb - gyda system bagiau clir hawdd ar gyfer ailgylchu eitemau sych. Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned o fewn ychydig o filltiroedd o bob trigolyn ac maen nhw ar agor bob diwrnod o'r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc.

“Rhaid i ni barhau i fod yn falch o'n hymdrechion ailgylchu ni, ond mae cymaint yn rhagor mae modd i ni ei wneud. Rydyn ni'n gwybod bod ein trigolion yn poeni am y newid yn yr hinsawdd a hoffen nhw wneud Cymru a Rhondda Cynon Taf yn llefydd glanach a gwyrddach. Gyda'n gilydd mae modd i ni sicrhau bod Cymru'n cipio'r fedal aur am ailgylchu a'n bod ni'n amddiffyn ein planed trwy ailgylchu'r pethau cywir a lleihau halogi bob tro.”

 Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf, dilynwch @CyngorRhCT ar Instagram a Facebook neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu

Wedi ei bostio ar 24/09/2025