Skip to main content

Wedi'i ddiweddaru: Cynnal gwaith dros nos ar bontydd Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys

Church Village Bypass closure - Copy

Wedi'i ddiweddaru ar 09/04/26 – Nodwch, bydd angen cynnal noson arall o waith er mwyn cwblhau'r cynllun yma (9 Ebrill). *Rydyn ni wedi nodi'r manylion newydd yma yn yr erthygl wreiddiol isod.

 

Nodwch: bydd angen cau rhan o Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys am ddwy noson a hynny er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw hanfodol ar ddwy bont droed.

Bydd y rhan o ffordd osgoi’r A473 rhwng Cylchfan Nant Dowlais a Chylchfan Nant Celyn ar gau – yn unol â'r hyn sydd wedi'i nodi ar y map canlynol.

Bydd y gwaith yn cael ei gynnal o 7pm nos Fawrth, 7 Ebrill, (gan ddod i ben am 4am fore Mercher), a bydd yn cael ei gynnal eto o 7pm nos Fercher, 8 Ebrill (gan ddod i ben am 4am fore Iau).

*Mae angen cynnal noson arall o waith er mwyn cwblhau'r cynllun yma. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal o 7pm nos Iau, 9 Ebrill (ac yn dod i ben erbyn 4am ddydd Gwener). Bydd angen cau lôn ar Heol Dowlais, gerllaw'r ffordd osgoi. Bydd y ffordd yma'n parhau i fod ar agor a dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu llawer ar y gymuned.

Mae angen cau'r ffordd er mwyn cynnal gwaith archwilio a glanhau ar y ddwy bont droed sy'n croesi'r ffordd, gan sicrhau diogelwch y gweithlu a defnyddwyr y ffordd. Bydd cynnal y gwaith dros nos yn sicrhau bod y gwaith yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.

Mae'r llwybr amgen i ddefnyddwyr y ffordd yn mynd ar hyd Bryn y Goron, Ffordd Llantrisant, B4595, Yr Heol Fawr a Heol yr Orsaf. Mae'r llwybr yma wedi'i nodi ar y map uchod.

Mae Hammond ECS Ltd wedi'i benodi i gyflawni'r gwaith yma.

Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys, i gerddwyr ac i eiddo.

Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 01/04/2026